‘Unlocked’: detholiad o’r Prosiect Cyfuno
Ysgrifennodd Dylan Thomas am sut y byddai’n ‘gadael i’r geiriau a’r syniadau… syrthio i dudalennau’r papur’.
Ar ôl i’r cyfyngiadau symud ddechrau, galwodd y prosiect Cyfuno ar bobl Abertawe i wneud hynny’n union. Mae’r cyfraniadau wedi’u casglu ynghyd i greu detholiad newydd sbon sy’n archwilio profiadau pobl yn ystod yr adeg ryfedd a digynsail hon, ac yn arddangos sut rydym yn troi at rym y gair ysgrifenedig i fynegi, rhannu a gwneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Lawrlwythwch gopi testun plaen neu gopi sy’n defnyddio ystod o ffontiau ac arddulliau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ysgrifennu, cymerwch gip ar ysgogiadau ysgrifennu Canolfan Dylan Thomas, sy’n cael eu postio ar ein blog yma bob pythefnos.
Unlocked Anthology testun plaen
Unlocked Anthology
This post is also available in: English