Y diwrnod y darllenodd Dylan Thomas ei farddoniaeth o flaen rhai o’r teulu brenhinol
I nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth, rydym wedi ysgrifennu blog byr am yr amser y darllenodd Dylan Thomas o flaen rhai o’r teulu brenhinol.
Ar 14 Mai 1946, cymerodd Dylan ran mewn digwyddiad â’r teitl ‘A Recital of Poetry of the Past and Present’ yn Neuadd Wigmore Llundain. Roedd y Dywysoges Elizabeth a’r Dywysoges Margaret yn y gynulleidfa gyda’u mam, y Frenhines Elizabeth.
Gwahoddwyd Dylan i gymryd rhan yn y noson gan y Bardd Llawryfog, John Masefield, a gofynnwyd iddo fod yn aelod o’r pwyllgor a oedd yn dethol perfformwyr ac yn trefnu’r rhaglen. Yn ôl y sôn, cyrhaeddodd Dylan ychydig yn hwyrach na’r disgwyl, ac yn edrych braidd yn anniben, ond perfformiodd yn dda iawn.
Darllenodd ei gerdd ei hun, ‘Fern Hill’, i gau ail hanner y digwyddiad, ar ôl darllen ‘The Snake’ gan D H Lawrence a ‘The Tyger’ gan Blake. Roedd cyfranogwyr enwog eraill yn cynnwys John Laurie (Preifat Fraser yn Dad’s Army) a ddarllenodd dair o gerddi Rabbie Burns gan gynnwys ‘Go fetch to me a Pint o’ Wine’, a John Geilgud, yr oedd ei ddarlleniadau wedi cynnwys ‘To his Coy Mistress’ gan Marvell.
Dywedodd adolygiad The Times o’r noson fod ‘Mr C Day-Lewis, Mr Louis MacNeice a Mr Thomas wedi darllen eu gwaith eu hunain yn llawer gwell na Mr Walter de la Mare, Mr T S Eliot a Miss Edith Sitwell.’
Fodd bynnag, fel y crybwyllodd y bywgraffydd Andrew Lycett, ‘daeth y tân gwyllt wedyn. Dywedwyd bod Caitlin wedi mynd at y Frenhines a gofyn ‘I say, do you like this? I don’t. I think I shall ask for my money back.’ Yn ôl Edith Sitwell, ffliciodd Caitlin rhywfaint o lwch sigarét ar ffrog y Frenhines. Mae’n bosib yr ychwanegwyd at y rhan honno o’r stori….
Gyda llaw, roedd 14 Mai yn ddyddiad pwysig i Dylan: ar y diwrnod hwnnw, 7 mlynedd yn ddiweddarach, perfformiwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan gyda chast yn Efrog Newydd, pan oedd Dylan ar ei drydedd daith o ogledd America.
Dewch i weld ein harddangosfa barhaol ‘Dwlu ar y Geiriau’ i weld y rhaglen o’r digwyddiad yn Neuadd Wigmore, a llawer mwy!
This post is also available in: English