Canolfan Dylan Thomas yn cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol! 

Mae’n destun cyffro i ni gyhoeddi ein bod ni wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau addas i deuluoedd Kids in Museums eleni! Mae Kids in Museums wedi cynnal y gwobrau blynyddol uchel eu bri hyn ers 2004, gan gydnabod y safleoedd treftadaeth mwyaf addas i deuluoedd yn y DU, a dyma’r unig wobr i amgueddfeydd a ddyfernir gan deuluoedd.

Cawsom enwebiadau gwych gan deuluoedd

‘Amgueddfa Dylan Thomas yw’r un orau. Mae’r staff yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn garedig. Mae’r amgueddfa’n addas iawn i deuluoedd, mae’r ardal grefftau’n wych ac mae’n cynnwys popeth am Dylan Thomas. Rydyn ni’n dwlu ar ddod yma.’

Liliwen, sy’n 10 oed

Dros wyliau’r haf, bydd teuluoedd yn ymweld â ni fel beirniaid cudd, gan asesu’r amgueddfeydd sydd ar y rhestr fer yn erbyn maniffesto Kids in Museums, sef cyfres o ganllawiau ynghylch hanfodion ymweliad gwych ag amgueddfa i bobl o bob oedran. Bydd eu profiadau’n penderfynu pwy yw enillwyr y gwobrau ym mhob categori ac enillydd cyffredinol Gwobr yr Amgueddfa Fwyaf Addas i Deuluoedd ar gyfer 2024. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo ym mis Hydref.

Byddwn yn cynnig rhaglen brysur o weithgareddau at ddant pawb yn ein harddangosfa a’n man dysgu drwy gydol gwyliau’r haf. Bydd llwybr synhwyraidd newydd a chyfres o weithdai hwyl ac am ddim i deuluoedd, gan gynnwys creu llythyrau a chardiau post wedi’u haddurno, a llunio llyfrgell comics fach. Byddwn hefyd yn cymryd rhan yn y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 7 Awst! Gweler ein hadran Digwyddiadau am ragor o wybodaeth 🙂

This post is also available in: English