Llwybr ‘Tourmaline and the Museum of Marvels’
Date/Time
15/02/2025 - 02/03/2025
10:00 am - 4:30 pm
15 Chwefror – 2 Mawrth
Ymunwch â ni rhwng 15 Chwefror a 2 Mawrth am Lwybr Tourmaline and the Museum of Marvels, a drefnir gan Kids in Museums a Little Tiger. Mae’r llwybr cenedlaethol ar gyfer teuluoedd wedi’i ysbrydoli gan Tourmaline and the Museum of Marvels gan Ruth Lauren – cyfres ddifyr a ffeministaidd ar gyfer plant 9-12 oed.
Mae pwerau hudol newydd a rhyfedd Tourmaline yn achosi helynt ac mae hi’n ysu i wybod sut i’w rheoli. Pan mae’n derbyn cerdyn post dirgel sy’n addo atebion iddi, mae’n mynd ar antur fythgofiadwy i’r ‘Museum of Marvels’.
Cymerwch daflen weithgareddau am ddim i gymryd rhan yng Nghanolfan Dylan Thomas. Chwiliwch am Tourmaline, ei ffrindiau ac amrywiaeth o eitemau hudol sy’n cuddio yn yr amgueddfa. Cwblhewch y llwybr a byddwch yn derbyn sticer Tourmaline am ddim!
Gall plant hefyd ddylunio eu ‘Museum of Marvels’ eu hunain. Bydd y dyluniad gorau’n ennill casgliad o lyfrau Tourmaline wedi’u llofnodi a thocyn ‘National Art Pass (Plus Kids)’ diolch i’r Gronfa Gelf, sy’n rhoi mynediad i un oedolyn a phlant dan 16 oed i gannoedd o amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol ar draws y DU, yn ogystal â 50% oddi ar arddangosfeydd mawr!
Amodau a thelerau llawn y gystadleuaeth: https://bit.ly/tourmalinetrail
Dydd Mercher – dydd Sul, 10am – 4.30pm
Mynediad am ddim!
This post is also available in: English