Llwybr dici-bô Dylan

Date/Time
14/05/2024 - 30/06/2024
10:00 am - 4:30 pm
14 Mai – 30 Mehefin
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai bob blwyddyn, i goffáu’r perfformiad llwyfan cyntaf o Under Milk Wood yn Efrog Newydd.
Roedd Dylan yn aml yn gwisgo dici-bô ar gyfer ymddangosiadau cyhoeddus, ac felly rydym wedi cuddio 8 dici-bô lliwgar o gwmpas yr arddangosfa. Allwch chi ddod o hyd i bob un?
Rydym ar agor ar hyn o bryd rhwng 10am a 4.30pm, o ddydd Mercher i ddydd Sul. Mynediad am ddim.
This post is also available in: English