Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Llyfrgell Comics Fach ‘Holiday Memory’

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Llyfrgell Comics Fach ‘Holiday Memory’

Date/Time
26/07/2024
10:00 am - 12:00 pm


Dydd Gweber 26 Gorffennafm 10.00 – 12.00

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a  bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol. 

Ydych chi’n dwlu ar gomics a chreu straeon? Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas am weithdy creadigol difyr lle gallwch greu eich llyfrgell comics fach eich hun! Gallwch ddylunio ac arlunio cymeriadau, creu eich stori ac yna ddylunio clawr deniadol. Bydd cyfle gennych hefyd i greu llyfrgell fach i storio’ch comics creadigol!

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 7+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau’r gweithgaredd.  Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

This post is also available in: English