Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Creu Map Stori

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Creu Map Stori

Date/Time
09/08/2024
10:00 am - 12:00 pm


Dydd Gwener 9 Awst, 10.00 – 12.00

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a  bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Cofnodwch eich anturiaethau yn ystod y gwyliau – rhai go iawn a rhai dychmygol – ar eich map stori eich hun. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys gemau, pypedau, cornel ddarllen a gwisgo i fyny.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

This post is also available in: English