Gweithdy Tawel i Deuluoedd: ‘Autumnal Spells’

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: ‘Autumnal Spells’

Date/Time
29/10/2024
2:00 pm - 4:00 pm


29 Hydref, 2pm – 4pm

WWT Llanelli

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Mae Canolfan Dylan Thomas ac Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli yn dod ynghyd i ddathlu ‘Words for Wetlands’!  Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ymarferol yn gwneud cwils, dysgu sut i wneud memrwn wedi’i heneiddio a defnyddio’r ddau i greu swyn bwganllyd hudol! Bydd cerddi Dylan Thomas am yr hydref yn ein hysbrydoli hefyd.

Bydd popeth yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, eu hailbwrpasu ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Mae’r holl blu sy’n cael eu defnyddio wedi cael eu gollwng yn naturiol a’u casglu yma yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir.

Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy. Bydd cwils pren naturiol i’r rheini nad ydynt am ddefnyddio plu.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma:  https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

Cynhelir y sesiwn hon yn WWT Llanelli. Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad. Am ddim i aelodau WWT.

This post is also available in: English