Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Pypedau a Theatrau ‘Holiday Memory’

Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Pypedau a Theatrau ‘Holiday Memory’

Date/Time
16/08/2024
1:00 pm - 4:00 pm


Dydd Gwener 16 Awst, 1.00-4.00

Mae’r gweithdy hwn wedi’i ysbrydoli gan ‘Holiday Memory’ Dylan Thomas a byddwn yn creu pypedau a theatrau yn seiliedig ar themâu traddodiadol glan môr. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys gemau, pypedau, cornel ddarllen a gwisgo i fyny.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran.

Galw heibio, am ddim.

 

This post is also available in: English