Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Cardiau Post a Llythyrau Creadigol ‘Holiday Memory’

Gweithdy Galw Heibio i Deuluoedd: Cardiau Post a Llythyrau Creadigol ‘Holiday Memory’

Date/Time
23/08/2024
1:00 pm - 4:00 pm


Dydd Gwener 23 Awst, 1pm – 4pm

Mae un o’n gweithdai mwyaf poblogaidd yn dychwelyd ar gyfer yr haf. Ymunwch â ni i greu darn o waith celf i’w anfon at rywun arbennig! Bydd amrywiaeth o dechnegau a deunyddiau artistig creadigol i chi eu harchwilio, a bydd ein tîm creadigol wrth law i helpu gyda syniadau ac i roi ysbrydoliaeth.

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 4+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau’r gweithgaredd.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Galw heibio, am ddim.

This post is also available in: English