Gweithdy Barddoniaeth gyda Helen May Williams: Ailadrodd Chwedlau mewn Lleisiau Gwahanol
Date/Time
10/02/2018
10:30 am - 1:00 pm
Location
Canolfan Dylan Thomas
Yn y gweithdy hwn byddwch yn gweithio gyda chwedl o’ch dewis. Gallai fod yn stori tylwyth teg rydych wedi gwybod amdani ers eich plentyndod, yn chwedl leol, neu’n chwedl rydych wedi dod ar ei thraws yn ddiweddarach yn eich bywyd sy’n eich diddori ac wedi gafael ynoch. Nid oes angen i chi wybod yr holl fanylion amdani, ond gallai fod yn ddefnyddiol i chi atgoffa eich hun ohoni cyn y gweithdy.
Bydd gan bawb chwedl wahanol sy’n creu argraff arno: i rai, stori boblogaidd o’r Mabinogi neu gan y Brodyr Grimm fydd hi, ond i eraill gallai fod yn stori o fytholeg Roegaidd, Rufeinig neu Lychlynnaidd. Ni fydd angen i chi chwilio’n bell i ddarganfod traddodiad cyfoethog o fythau a chwedlau sydd, trwy’u hadrodd, yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i genhedloedd a gwledydd. Byddwch yn archwilio ffyrdd gwahanol o ailadrodd y chwedl o’ch dewis a chwilio am ffyrdd o roi bywyd newydd i stori hynafol mewn lleoliad cyfoes.
Mae angen cadw lle ymlaen llaw.
This post is also available in: English