Dylan Thomas: Ei Eiriau mewn Cerddoriaeth
Date/Time
09/10/2014
7:00 pm
Location
National Waterfront Museum
Darlith gyda lluniau gan yr arweinydd Edward-Rhys Harry. Ydy hi’n bosib i fardd enwog Cymru estyn ei ddylanwad llenyddol y tu hwnt i fydoedd naratif, barddoniaeth a rhyddiaith?
Ymunwch â ni am noson arbennig wedi’i britho gan berfformiadau byw ac wedi’u recordio o eiriau Dylan Thomas mewn ffyrdd na fyddwch wedi’u clywed o’r blaen.
Bydd y noson yn agor gyda pherfformiad gan Gôr Meibion Dyfnant wedi’i ddilyn gan y perfformiad cyntaf yng Nghymru o The Force That Through The Green Fuse Drives the Flower – trefniant corawl i gerdd Thomas a ysgrifennwyd yn ei arddegau hwyr a gomisiynwyd ar gyfer y canmlwyddiant eleni gan deulu Dylan Thomas ei hun.
Gan gynnwys:
Côr Meibion Dyfnant
Camerata Cymry Llundain
Jenny Trew – piano
Steffan Morris – sielo
Edward-Rhys Harry – siaradwr ac arweinydd
Mewn cydweithrediad â Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe.
Digwyddiad am ddim
Mwy o wybodaeth: www.amgueddfacymru.ac.uk – 02920 573600
This post is also available in: English