Creu eich cymeriadau cartŵn eich hun

Date/Time
30/08/2023
10:00 am - 3:30 pm


30 Awst, 10am – 12 ganol dydd ac 1.30pm – 3.30pm

Ymunwch â’r awdur, y darlunydd a’r cyflwynydd radio a theledu gwych, Siôn Tomos Owen i greu eich cymeriadau cartŵn eich hun! Fel rhan o’r dathliadau i nodi 70 mlynedd ers y perfformiad cyntaf o Under Milk Wood, byddwn yn creu ein llu o gymeriadau ein hunain gyda straeon lliwgar. Bydd pawb yn gadael gyda chartŵn o’u hunain wedi’i dynnu’n gyflym gan Siôn.

Mae’r gweithdy dwyieithog hwn ar gyfer plant rhwng 7 a 12 oed a’u teuluoedd. Gall brodyr a chwiorydd iau ymuno ond efallai bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gan oedolyn; mae croeso i blant hŷn hefyd! Cyfyngir pob sesiwn i bedwar grŵp o hyd at chwe oedolyn neu blentyn sy’n cymryd rhan; dylai fod un neu fwy o oedolion yn cymryd rhan ym mhob grŵp.

Am ddim. Archebwch fwrdd eich teulu drwy’r ddolen hon:

Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

This post is also available in: English