Ymweld ag Abertawe, man geni Dylan
Y darparwr gwybodaeth swyddogol i dwristiaid ar gyfer Bae Abertawe (de-orllewin Cymru, y DU)
Ganwyd Dylan Thomas yn Rhodfa Cwmdoncyn yn yr Uplands, Abertawe a dylan wadwyd ar ei waith gan sawl man ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gwyr ac o’u hamgylch.
Mae Abertawe, dinas y glannau’n gartref i’r amgueddfeydd hynaf a diweddaraf yng Nghymru a’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, sy’n gwerthu danteithion megis cocos a bara lawr (gwymon!) a phice ar y maen wedi’u pobi’n ffres. Mae gan y ddinas gyfleuster syrffio dan do hefyd yn yr LC ac, wrth gwrs, Canolfan enwog Dylan Thomas, sy’n gartref i’r casgliad mwyaf yn y byd o femorabilia Dylan Thomas.
Dilynwch bum milltir Bae Abertawe a byddwch yn cyrraedd y Mwmbwls, gyda’i gastell canoloesol, ei siopau crefft hynod, ei orielau celf a’i siopau dillad ffasiynol. A chofiwch am y dewis eang o gaffis a pharlyrau hufen-iâ (y mae un ohonynt yn ymfalchïo mewn rysáit gyfrinachol o 1922!).
Ewch ar hyd yr arfordir o’r Mwmbwls i Benrhyn Gwyr, un o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU, i archwilio traethau arobryn a 34 milltir o arfordir. Rhowch gynnig ar abseilio neu ôl-fyrddio, arfordiro neu syrffio. Cerddwch ar hyd llwybr yr arfordir neu dewch i chwarae golff gyda golygfeydd godidog yn y cefndir.
Gadewch i ni eich helpu i gynllunio eich ymweliad
Os hoffech ymweld â Bae Abertawe, byddem wrth ein boddau i’ch helpu i gynllunio’ch taith. Ewch i www.dewchifaeabertawe.com i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys gweithgareddau, llety, atyniadau i ymwelwyr, lleoedd i fwyta ynddynt, arweinlyfrau, mapiau a llawer mwy.
I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ym Mae Abertawe, ac i gael y newyddion lleol diweddaraf am ddigwyddiadau gwych, ewch i www.joiobaeabertawe.com.
Cyrraedd Abertawe
Mae Bae Abertawe yn ne-orllewin Cymru, yng ngorllewin y Deyrnas Unedig, ac mae’n hawdd ei gyrraedd yn y car, ar y trên, ar y bws, ar y môr neu o’r awyr.
Cyrraedd Abertawe ar drên
Yn ystod yr wythnos gallwch gael trên i Abertawe o unrhyw ran o’r DU, naill ai’n uniongyrchol neu gydag un newid rhwydd, o leiaf bob dwy awr a bob awr fel arfer. Llai aml ar ddydd Sul.
I gael amseroedd trên a gwybodaeth, cysylltwch ag Ymholiadau Trenau Cenedlaethol ar 08457 484 950 neu ewch i www.nationalrail.co.uk.
Cyrraedd Abertawe ar goets
Gallwch gael coets i Abertawe’n ddyddiol o unrhyw ran o’r DU, naill ai’n uniongyrchol neu gydag un newid rhwydd, o leiaf unwaith y dydd a hyd at bum gwaith y dydd o ganolfannau mwy.
Coetsis National Express i Abertawe ar gyfer amseroedd a gwybodaeth am brisiau.
Megabus i Abertawe ar gyfer archebu ar-lein.
Cyrraedd Abertawe ar awyren
Ceir cysylltiadau rheilffordd a bysus da i Abertawe o feysydd awyr Gatwick a Heathrow Llundain, maes awyr Bryste a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Maes Awyr Heathrow Llundain
Trên: Heathrow Express i Paddington Llundain, yna’r First Great Western o Paddington Llundain i Abertawe, hyd at 20 trên y dydd.
Coets: National Express yn uniongyrchol i Abertawe, hyd at 11 coets y dydd.
Maes Awyr Gatwick Llundain
Trên: First Great Western o faes awyr Gatwick i Abertawe; newid yn Reading.
Coets: National Express yn uniongyrchol i Abertawe, hyd at 9 coets y dydd.
Maes Awyr Rhyngwladol Bryste
Trên: Bristol Temple Meads (bysus yn rhedeg yn aml o’r maes awyr) i Abertawe gydag un newid ar y daith yng Nghaerdydd, hyd at 20 trên y dydd.
Coets: Greyhound yn uniongyrchol i Abertawe, hyd at 9 coets y dydd.
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Trên: Rhoose (bws gwennol o’r maes awyr) i Abertawe gydag un newid ar y daith ym Mhen-y-bont, hyd at 18 trên y dydd.
Coets: Maes Awyr Caerdydd i Gaerdydd Canolog (Airport Express) yna newid i Greyhound Caerdydd Canolog i Abertawe, hyd at 16 coets y dydd.
Mwy o Wybodaeth
Ceir gwybodaeth fanwl am deithio i Abertawe, beth i’w wneud a ble i aros yn dewchifaeabertawe.com
This post is also available in: English