Y 1930au
1930 – 1939
1930
27 Ebrill: Dylan yn dechrau’r cyntaf o’r ‘Llyfrau Nodiadau’ y copïodd ei gerddi cynnar iddynt. Parhaodd y Llyfrau Nodiadau tan 1934, ac roedd y cerddi ynddynt yn sail i 18 Poems (1934), a Twenty Five Poems (1936) a chyfrannodd ddeunydd at The Map of Love (1939) a Deaths and Entrances (1946). Casglwyd y gweithiau cynnar hyn yn The Notebook Poems (a olygwyd gan Ralph Maud, Llundain: Dent 1989) sydd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas.
1931
Caitlin a Vivien John (merch yr artist Augustus John) yn mynd i Lundain a Caitlin yn dechrau cwrs dawnsio dwy flynedd
31 Awst: Dylan yn gadael Ysgol Ramadeg Abertawe i fod yn newyddiadurwr iau ar y South Wales Daily Post.
1932
Dylan yn ymuno â Chwmni Theatr Bach Abertawe. Roeddent yn y Mwmbwls ar y pryd, ac roedd ei chwaer Nancy Thomas eisoes yn aelod. Perfformiodd mewn nifer o ddramâu, gan gynnwys Hay Fever Noel Coward.
Mis Rhagfyr: Dylan yn gadael y South Wales Daily Post ac yn gweithio llawn-amser ar ei farddoniaeth. Ysgrifennodd tua dwy ran o dair o’i holl farddoniaeth yn ei arddegau hwyr.
Yn ystod y cyfnod hwn y datblygodd ei gyfeillgarwch â Bert Trick, a chyda’r grwp o ddynion ifanc talentog Abertawe a elwir yn aml bellach yn Griw Kardomah, ar ôl eu hoff gaffi, y Kardomah.. Roedd y grwp hwn yn cynnwys Vernon Watkins, Daniel Jones, Alfred Janes, John Prichard, Tom Warner, Charlie Fisher a Mervyn Levy. Mae’r arlunwyr Ronald Cour a Ceri Richards bellach yn gysylltiedig â’r criw, er na chyfarfu Ceri Richards â Dylan tan y 1950au mewn gwirionedd.
1933
“Though they sink through the sea they shall rise again;
Though lovers be lost love shall not
And death shall have no dominion”
And death shall have no dominion
Caitlin yn ymweld â Dulyn ac yna Paris gyda Vera Gribben lle arhosodd am y flwyddyn nesaf.
18 Mai: Cyhoeddi ‘And Death Shall Have No Dominion’ yn New English Weekly – cerdd gyntaf Dylan i gael ei chyhoeddi y tu allan i Gymru.
Mis Awst: Dylan yn mynd i Lundain, gan aros gyda’i chwaer Nancy a’i g?r, Haydn Taylor, ac yn ymweld â golygyddion cylchgronau llenyddol.
Mis Medi: Cyhoeddi ‘That Sanity Be Kept’ yn ‘Poet’s Corner’ yn y Sunday Referee; gwelir hon gan ddarpar fardd ifanc arall, Pamela Hansford Johnson, sy’n ysgrifennu at Dylan; mae eu gohebiaeth yn dechrau.
1934
“Light breaks where no sun shines;
Where no sea runs, the waters of the heart
Push their tides;”
Light breaks where no sun shines
23 Chwefror: Ail ymweliad Dylan â Llundain; mae’n aros gyda Pamela Hansford Johnson a’i mam yn Battersea. Parhaodd eu perthynas tan 1935.
22 Ebrill: Dylan yn ennill gwobr llyfr ‘Poet’s Corner’ oedd yn cynnwys nawdd y Sunday Referee i’w gasgliad cyntaf o gerddi. Roedd Pamela Hansford Johnson wedi ennill y wobr hon o’r blaen.
Mis Tachwedd: Dylan yn mynd i fyw yn Llundain am y tro cyntaf yn 5 Stryd Redcliffe, Earls Court, gyda’i ffrindiau o Abertawe, yr artistiaid Alfred Janes a Mervyn Levy. Mae’n dychwelyd yn gyson at ei rieni yn Cwmdonkin Drive tan iddynt symud i Landeilo Ferwallt, Gwyr, ym 1937.
4 Rhagfyr: Ymddangosiad cyntaf Dylan ar ffurf llyfr; cyhoeddir ei gerdd ‘Light Breaks Where No Sun Shines’ yn The Year’s Poetry.
18 Rhagfyr: Cyhoeddir casgliad cyntaf Dylan, 18 Poems, ar y cyd â’r Sunday Referee a Siop Lyfrau Parton.
1935
Mis Mai 1935: Mae Dylan yn aros am fis gydag Alan (yr hanesydd AJP Taylor) a Margaret Taylor yn Higher Disley yn y Peak District.
“From the first print of the unshodden foot, the lifting
Hand, the breaking of the hair,
And to the miracle of the first rounded word”
From love’s first fever
1936
21 Chwefror: Cyhoeddi ail argraffiad o 18 Poems.
Mis Ebrill: Dylan a Caitlin yn cwrdd yn nhafarn y Wheatsheaf, Llundain, a dywed y gwnaethant dreulio’r dyddiau nesaf gyda’i gilydd yng Ngwesty Twr Eiffel, gan godi’r tâl ar ei chariad Augustus John.
Mis Ebrill/mis Mai: Dylan yn aros yng Nghernyw gyda Wyn Henderson, i ddechrau yn ei bwthyn ym Mhorthcurno, ac yna yn ei chartref newydd yn Mousehole.
Mis Mehefin: Dylan yn ymweld â’r Arddangosfa Swrrealaidd Rhyngwladol yn Orielau New Burlington, Llundain, ac yn cario cwpanaid o linyn wedi’i ferwi o gwmpas, gan ofyn “gwan neu gryf?” Roedd Salvador Dali ymysg y cynrychiolwyr eraill.
15 Gorffennaf: Dylan a Caitlin yn cwrdd eto yng nghartref Richard Hughes yn Nhalacharn; roedd Dylan wedi perswadio Alfred Janes i’w yrru i Dalacharn, gan wybod bod Caitlin yno gydag Augustus John. Pan dorrodd car Fred i lawr, gwnaeth Dylan a Caitlin rannu sedd gefn Augustus John, gyda John yn rhythu arnynt wrth iddynt gofleidio.
Yn y pen draw, gwnaeth Dylan ac Augustus John ymladd yn Nhalacharn. Enillodd John yr ornest hon, ond ar ôl y digwyddiad, tyfodd perthynas Dylan a Caitlin yn fwy difrifol.
10 Medi: Cyhoeddi Twenty-five Poems gan JM Dent a’i Feibion Cyf, pymthegfed cyfrol eu cyfres o farddoniaeth newydd.
“My images stalk the trees and the slant sap’s tunnel.
No more tread more perilous, the green steps and spire
Mount on man’s footfall”
I, in my intricate image
1937
21 Ebrill: Recordiwyd darllediad radio cyntaf Dylan, ‘Life and the Modern Poet’ (Gwasanaeth Cymreig y BBC), a recordiwyd yn stiwdios Llundain y BBC, am fod Dylan wedi’i adael yn rhy hwyr i ddychwelyd i Abertawe fel roedd wedi’i fwriadu.
Mis Mehefin/mis Awst: Dylan a Caitlin yn aros yng Nghernyw, yn Lamorna Cove ar y dechrau, ger Mousehole.
11 Gorffennaf: Dylan a Caitlin yn priodi yn Swyddfa Gofrestru Penzance, yn groes i ddymuniadau ei rieni. Benthycodd Wyn Henderson y £3 angenrheidiol iddynt am y drwydded, gan aros yn eu gwesty, The Lobster Pot, yn Mousehole ar ôl hynny.
Mis Medi: Mae Dylan a Caitlin yn aros gyda’i rieni yn Llandeilo Ferwallt, a dyma’r tro cyntaf i Caitlin gwrdd â’i deulu.
Mis Hydref/mis Ebrill: Maent yn aros gyda mam Caitlin yn Blashford ger Ringwood yn Hampshire.
1938
Mis Ebrill: Dylan a Caitlin yn aros yn Llandeilo Ferwallt, ac yna gyda’r nofelydd Richard Hughes (a ysgrifennodd A High Wind in Jamaica) a’i wraig Frances yn Castle House, Talacharn.
Mis Mai: Symud i fwthyn pysgota bach, Eros, yn Stryd Gosport, Talacharn.
Mis Awst: Symud i Sea View, Talacharn. Caitlin yn dweud wrth Vernon Watkins mai eu cyfnod yn Sea View oedd “y cyfnod hapusaf o’n bywydau gyda’n gilydd.”
18 Hydref: Dylan yn cymryd rhan yn narllediad radio ‘The Modern Muse’ Gwasanaeth Cartref y BBC gyda Louis MacNeice, WH Auden, Kathleen Raine a Stephen Spender.
Mis Tachwedd/mis Ebrill: Dylan a Caitlin yn aros yn Blashford yn aros i’w babi cyntaf gael ei eni:
“A saint about to fall,
The stained flats of heaven hit and razed
To the kissed kite hems of his shawl”
A saint about to fall
1939
30 Ionawr: Geni Llewelyn Edouard Thomas.
“This side of the truth
You may not see, my son,
King of your blue eyes
In the blinding country of youth”
This side of the truth
24 Awst: Cyhoeddi The Map of Love, casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith, gan JM Dent a’i Feibion Cyf.
Rhagfyr 20: Cyhoeddi The World I Breathe – casgliad o gerddi a straeon byrion – yn yr Unol Daleithiau.
Mis Rhagfyr / mis Chwefror: Aros yn Blashford gyda theulu Caitlin.
This post is also available in: English