Ysgrifennwch eich ‘Return Journey’ eich hun – Dewiswch eich stori antur eich hun

Pan ddychwelodd Dylan Thomas i Abertawe ar ôl yr ail Ryfel Byd, treuliodd amser yn cerdded o gwmpas y lle yn ceisio ailddarganfod y lleoedd lle treuliodd ei ieuenctid ar ôl i’r dref gael ei newid yn gyfan gwbl yn dilyn y Blitz Tair Noson ym mis Chwefror 1941. Ysgrifennodd am ei brofiad yn ei ddarllediad radio ‘Return Journey’.
Dewch i ni ysgrifennu ein ‘Return Journey’ ein hun, ond yn ein fersiwn ni, chi sy’n penderfynu beth sy’n digwydd nesaf! Ble byddwch chi’n mynd? Beth byddwch chi’n ei weld? Â phwy byddwch chi’n cwrdd? Chi fydd yn penderfynu ar drefn a chanlyniad yr antur hwn!
Gall y stori ddigwydd yn unrhyw le. Gallai fod yn lle go iawn, neu’n lle dychmygol Rydym wedi rhoi rhai ysgogiadau ysgrifennu i chi ym mhob adran. Dechreuwch yn lleoliad 1 gyda’ch cyrhaeddiad, yna dewiswch i ble yr ewch chi nesaf…
Cofiwch rannu’ch straeon gorffenedig â ni drwy e-bostio dylanthomas.lit@swansea.gov.uk neu drwy ein tagio ni @CDTAbertawe ar Twitter neu yn facebook.com/CanolfanDylanThomas
Lleoliad 1 – Cyrhaeddiad
Rydych yn cyrraedd tref glan môr. Dydych chi ddim wedi bod yno ers blynyddoedd.
- Beth yw enw’r dref?
- Sut cyrhaeddoch chi yma ?
- Pa adeg o’r flwyddyn yw hi?
- Pryd oedd y tro diwethaf y buoch chi yma?
Ble’r ewch chi nesaf? Ydych chi’n cerdded drwy’r dref (ewch i Leoliad 3) neu ydych chi’n mynd i’r parc? (Lleoliad 9)
Lleoliad 2: Gwesty
Gwnewch eich ffordd i’r gwesty, ychydig yn flinedig ar ôl yr holl deithio.
- Pa fath o adeilad yw e’? Ydy e’n hen neu’n fodern?
- Ydy’r staff yn gyfeillgar?
- Ydych chi wedi aros yno o’r blaen? Os felly, sut mae e wedi newid?
Ar ôl i chi adael eich bagiau yn y gwesty, rydych chi’n penderfynu mynd am dro arall. Ydych chi’n mynd yn ôl drwy’r dref tuag at y siop lyfrau (Lleoliad 5) neu ydych chi’n mynd tuag at lan y môr? (Lleoliad 7)
Lleoliad 3: Canol y Dref
- Rydych chi’n cerdded drwy ganol y dref.
- Sut dywydd ydyw?
- Pa fath o siopau sydd yno?
- Ydy’r strydoedd a’r cynllun wedi newid llawer?
- Sut bobl sydd yno?
Wrth i chi gerdded, rydych chi’n dechrau teimlo chwant bwyd. Ydych chi’n mynd i’r siop losin (lleoliad 8) neu’r caffi (Lleoliad 4)?
Lleoliad 4: Caffi
Rydych yn camu i mewn i’r caffi ac yn eistedd wrth fwrdd.
- Ydy’r caffi’n brysur?
- Sut mae wedi’i addurno?
- Beth ydych chi’n ei archebu o’r fwydlen?
- Oes unrhyw gwsmeriaid od?
Nawr eich bod wedi bwyta, i ble yr hoffech chi fynd? Am dro ar hyd glan y môr? (Lleoliad 7) neu aros yn y dref a mynd i’r gwesty (Lleoliad 2)
Lleoliad 5: Siop Lyfrau
Mae’r gloch yn canu wth i chi fynd i mewn i’r siop lyfrau.
- Ydy e’n hen siop lyfrau neu’n un newydd?
- I ba adran yr ewch chi gyntaf?
- Ydych chi’n prynu unrhyw beth?
- Oes unrhyw ffefrynnau o’ch plentyndod yno?
Mae atgofion am lyfrau eich plentyndod yn eich ysbrydoli. Ydych chi’n mynd drwy’r dref i’r siop losin (Lleoliad 8) neu’r parc (Lleoliad 9)?
Lleoliad 6: Ysgol
- Rydych yn sefyll y tu fas i’r ysgol.
- Ydy e’n adeilad hen ffasiwn neu fodern?
- Aethoch chi erioed i’r ysgol hon pan oeddech chi’n iau?
- Beth oedd eich hoff bwnc?
- Pa bwnc oeddech chi’n ei hoffi lleiaf?
- Wnaethoch erioed fynd i drafferth?
Rydych yn cerdded oddi wrth yr ysgol. Ydych chi’n mynd adref (Lleoliad 10)? Neu ydych chi’n mynd i’r gwesty (Lleoliad 2)?

Lleoliad 7: Glan môr
Rydych yn cyrraedd glan môr ac yn edrych o’ch cwmpas.
- Beth gallwch chi ei weld?
- Beth gallwch chi ei arogli?
- Pa atgofion sydd gennych o ddod yma?
- Ydych chi’n prynu hufen iâ neu gofrodd?
- Ydych chi’n ysgrifennu cerdyn post?
Ar ôl eich amser bywhaol ger y môr, ydych chi’n barod i fynd adref? (Lleoliad 10) neu ydych chi’n cerdded yn ôl drwy’r dref? (Lleoliad 3)?
Lleoliad 8: Siop Losin
Rydych chi’n mynd i mewn i’r siop losin. Mae jariau o losin ar hyd y silffoedd a’r cownteri.
Disgrifiwch pa losin a welwch chi?
- Pa losin ydych chi’n eu prynu?
- Ai’r un losin yw’r rhain â’r rhai y prynoch chi y tro diwethaf y buoch chi yma?
- Oes llawer o gwsmeriaid?
- Oes unrhyw losin rydych chi’n eu casáu?
- Ydych chi’n bwyta’ch losin yn y fan a’r lle neu’n eu cadw tan yn hwyrach?
Ar ôl bwyta’r losin, ydych chi’n mynd i’r ysgol (Lleoliad 6) neu’n penderfynu ei bod hi’n amser mynd adref (Lleoliad 10)?

Lleoliad 9: Parc
Ar ôl tro byr, rydych yn cyrraedd y parc lleol.
- Oes ardal chwarae yno?
- Oes llwybrau coediog i’w dilyn?
- Ydych chi’n gweld unrhyw fywyd gwyllt?
- Oes llawer o bobl yno?
- Oes ceidwad y parc?
Ar ochr bellaf y parc gallwch weld siâp yr ysgol leol. Ydych chi’n mynd yno? (Lleoliad 6) neu ydych chi’n mynd i lan y môr? (Lleoliad 7)
Lleoliad 10: Gartref
Ar ôl galw heibio’r gwesty i gasglu’ch bagiau, rydych yn penderfynu mynd adref.
- Sut byddwch chi’n cyrraedd adref a faint o amser bydd e’n ei gymryd?
- Oes gennych chi unrhyw gofroddion?
- Beth oedd eich hoff atgof o’ch ymweliad?
- Oedd y dref wedi newid llawer ers y tro diwethaf roeddech chi yno?
- Fyddwch chi’n dod nôl?
This post is also available in: English