Ysgogiadau Ysgrifennu
Bob pythefnos byddwn yn postio ysgogiadau ysgrifennu ar ein tudalennau Facebook a Twitter ac ar ein blog i roi ysbrydoliaeth i chi ar gyfer ysgrifennu, i roi ffocws i chi neu i gynnig her newydd i chi.
Yn aml, bydd yr ysgogiadau hyn ar ffurf llun, ond weithiau byddwn yn cynnig gemau geiriau neu ymarferion penodol.
Gallant eich ysbrydoli i ysgrifennu cerdd, creu stori fer, creu darn o waith bywgraffiadol creadigol, ysgrifennu llythyr neu gael peth dihangdod.
Gallech gadw’r gwaith i chi’ch hun, ei rannu â theulu a ffrindiau neu ei anfon atom ni! Byddem yn dwlu ar gynnwys eich ymatebion ar ein sianeli cyfrifon cymdeithasol @CDTAbertawe (Twitter) a @CanolfanDylanThomas (Facebook).
Ysgogiad 1 ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu
Rydym yn dechrau’n cyfres newydd o ysgogiadau ysgrifennu heddiw!
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Dyma ddau gwestiwn i’ch helpu i ddechrau:
- Sut daeth e’ yno?
- Ar gyfer pwy oedd hwn tybed?
Ysgogiad 2
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Dyma ddau gwestiwn i’ch helpu i ddechrau:
- Pwy sy’n byw mewn fflat fel hwn?
- Beth sy’n digwydd yn y fflat hwn?
Ysgogiad 3
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- O ble hwyliodd y llong?
- Pwy sydd ar y llong?
- Pam mae’r llong ym Marina Abertawe?
- Ble fydd hi’n hwylio nesaf?
Ysgogiad 4
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy yw hwn/hon?
- Pam mae e/hi yma?
- Beth yw ei stori?
Ysgogiad 5
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy yw hwn/hon?
- Sut gyrhaeddodd yma?
- Beth sy’n digwydd nesaf?
Ysgogiad 6
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy yw hwn/hon?
- Beth mae’n ei wneud lan fan hyn?
- Beth mae’n edrych arno?
Ysgogiad 7
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy yw’r ddau gymeriad hwn?
- Am beth maen nhw’n sôn?
Ysgogiad 8
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- I ba gyfeiriad mae hwn yn pwyntio a pham?
- Pwy roddodd yr arwydd yma?
Ysgogiad ysgrifennu’r hydref (9)
Ysgrifennodd Dylan Thomas nifer o gerddi am dymor yr hydref a’r gaeaf.
Allwch chi ysgrifennu cerdd hydrefol?
- Pa liwiau gallwch chi eu gweld?
- Sut mae’r tywydd?
- Sut olwg sydd ar y coed?
- Pa bethau all fod yn cuddio yn y dail sy’n cwympo?
Syniad ysgrifennu Nos Galan Gaeaf (10)
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy yw’r ysbrydion hyn?
- Pa ddrygioni fyddan nhw’n ei wneud?
- Pwy yw’r arweinydd?
Ysgogiad 11 – Cath fach ar y drymiau!
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Beth yw enw’r band y mae’n chwarae ynddo?
- Pwy arall sydd yn y band?
- Pa fath o gerddoriaeth maen nhw’n ei chwarae?
- Ble maen nhw’n mynd ar daith?
Ysgogiad 12 – Malwoden ar y rheilen!
Allwch chi ysgrifennu cerdd ddwli am Falwoden ar y Rheilen?
Ysgogiad 13 – Gwas y neidr yn cael seibiant
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Ble mae’r gwas y neidr hwn yn mynd ar ei wyliau?
- Â phwy maen nhw’n ymweld?
- Pa ysglyfaeth byddan nhw’n ei ddal i swper?
Ysgogiad 14 – Sbectol haul Abertawe
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy oedd yn berchen ar y sbectol haul hon?
- Beth oedd y peth diwethaf y gwelon nhw?
- Sut gwnaethon nhw gyrraedd fan hyn?
- Ble byddan nhw’n mynd?
Ysgogiad 15 – Golygfa o’r Traeth
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy oedd yn eistedd fan hyn?
- Am beth roedden nhw’n siarad?
- Pam wnaethon nhw adael yn sydyn?
- Gallwch ysgrifennu ar ffurf deialog, os ydych yn dymuno.
Syniadau ysgrifennu am arth (16)
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy yw’r cymeriad hwn?
- Ym mhle mae e’?
- Oddi wrth bwy mae e’n cuddio?
- Beth sy’n digwydd nesaf?
Syniadau ysgrifennu am esgidiau pêl-droed (17)
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy sy’n berchen ar yr esgidiau pêl-droed?
- Sut maen nhw wedi cyrraedd y goeden?
- A fyddan nhw’n dod lawr eto? Os felly, sut?
Syniadau ysgrifennu am ŵy
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Ym mhle cafodd yr ŵy ei ddarganfod?
- Beth fydd yn deor ohono?
- Beth fydd ei enw? Pa bwerau fydd gan y cyw?
Ysgogiad 19
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Edrychwch ar beth sydd wedi cyrraedd yn y post!
- Ym mhle mae Yevgeny wedi bod?
- Sut wnaeth ef gael ei hun yn y blwch?
- Ym mhle mae e’ nawr?
Ysgogiad 20
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy sy’n berchen ar y rhain?
- Pam maen nhw wedi eu gadael?
- Ym mhle maen nhw nawr, a beth sy’n digwydd nesaf?
Ysgogiad 21
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Mae Yevgeny wedi dod o hyd i edafedd cudd ei gaethwas!
- Beth yw ei gynllun?
- A fydd e’n creu creadigaeth ryfedd?
- Pa ddifrod fydd yn dilyn hyn?
Syniadau ysgrifennu am fotel (22)
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Beth sydd yn y botel?
- Pwy sydd wedi’i yfed?
- Sut flas oedd arno?
- Beth sy’n mynd i ddigwydd iddynt?
Syniadau ysgrifennu am lyffant (23)
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pwy sydd wedi’i droi’n llyffant?
- Beth wnaethon nhw?
- I ble’r awn nhw?
- Sut gallan nhw newid yn ôl – gan dybio eu bod eisiau gwneud?
Mae Yevgeny wrth ei fodd â llyfrau! (neu silffoedd llyfrau, beth bynnag).
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Beth yw ei hoff fath o lenyddiaeth?
- A fyddai’n dewis unrhyw beth o’r silff lyfrau hon?
- A yw e’n ddarpar awdur ei hun?
Ysgogiad 25
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Ble mae’r cwch hwn wedi bod?
- Pwy sydd ar y cwch?
- A fydd yn gollwng angor yn y bae hwn, ac os felly, beth sy’n digwydd nesaf?
Ysgogiad 26
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
- Pe gallai’r coed hyn siarad, pa straeon fydden nhw’n eu hadrodd?
- Pwy sydd wedi eistedd yn eu plith?
- Beth sydd wedi glanio arnyn nhw, neu wedi ymgartrefu ynddynt?
Ysgogiad 27
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Rydych yn nofio tua’r lan, ac yn cyrraedd lle newydd. Dydych chi byth wedi bod yno o’r blaen Disgrifiwch beth rydych chi’n ei wneud a phwy rydych yn ei weld a beth sy’n digwydd yn y deng munud gyntaf ar ôl i chi gyrraedd.
Ysgogiad 28
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Meddai Dylan am un o’i gerddi ‘I never thought them to be imitations but rather wonderfully original things, like eggs laid by tigers.’ Pa ddelweddau a chyfuniadau anghyffredin fyddech chi’n eu dewis i ddisgrifio’ch ysgrifennu’ch hun?
Ysgogiad 29
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
O ba draethell bell y golchwyd y gangen hon i’r lan? Disgrifiwch y lle hwn, a sut y daeth y gangen hon i Abertawe.
Ysgogiad 30
Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Hoffai Yevgeny fynd ar wyliau! I ba le hyfryd y gall e’ fynd? Beth byddai e’n gwneud yno? Â phwy y byddai e’n cwrdd?
Ysgogiadau Ysgrifennu’r Gaeaf
Dechreuwch stori gan ddefnyddio un o’r brawddegau cychwynnol hyn, pob un wedi’i addasu o gerdd Dylan Thomas, ‘A Winter’s Tale’ 👉🏻 https://loom.ly/SYXVkmk
This post is also available in: English