Your Voice Advocacy yn treialu cymhwyster newydd yn yr amgueddfa

Llun wedi’i dynnu gan Your Voice Advocacy
Blog gan Your Voice Advocacy
Your Voice Advocacy (YVA) ydym ni.
Rydym yn grŵp o bobl ag anableddau dysgu.
Rydym yn gwneud cymhwyster amgueddfa gyda Chanolfan Dylan Thomas.
Mae hi wedi bod yn ddiddorol i’r grŵp fod yn helpu’r ganolfan i dreialu’r cymhwyster.
Mae’r cymhwyster yn newydd. Ni yw’r grŵp cyntaf i’w brofi.

Mae hyn y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas.
Mae rhai o’r grŵp eiriolaeth YVA wedi bod yn gwneud cymhwyster yma.

Dyma’r grŵp yn dangos y fynedfa.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob wythnos yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Dyma Matthew, yn dangos bod croeso mawr i’r cyhoedd i’r arddangosfa.
Rydym wedi bod yn dysgu sgiliau newydd fel ffotograffiaeth.

Dyma Elvis a Holly. Mae Holly yn gi therapi. Mae croeso i bob anifail cymorth a therapi yma.
Dyma’r lle dysgu. Dyma ble rydym yn cynnal ein grŵp eiriolaeth.

Dyma’r grŵp yn siarad am het o ysgol Dylan Thomas.
Rydym yn helpu i gefnogi Canolfan Dylan Thomas gyda phethau Hawdd eu Darllen a mynediad.

Mae’r plac hwn yn dangos beth sydd yn yr arddangosfa.
Mae logo Your Voice Advocacy ar yr arddangosyn i ddangos ein bod wedi rhoi adborth a chyngor.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Your Voice Advocacy yma www.yourvoiceadvocacy.org.uk
This post is also available in: English