Tic Toc – Syr Wili Watsh
Yn ei blog diweddaraf, mae Linda yn edrych ar un o drigolion arbennig o ryfedd Llareggub.
Mae ‘drama i leisiau’ enwog a phoblogaidd Dylan Thomas, Dan y Wenallt, wedi’i lleoli mewn tref ffuglennol yng ngorllewin Cymru o’r enw Llareggub. Mae’n dilyn bywydau’r preswylwyr yn eu holl ogoniant amrywiol, dros gwrs diwrnod yn y gwanwyn.
Cawn ein cyflwyno gyntaf i Syr Wili Watsh ychydig cyn y wawr, wrth iddo freuddwydio am amser yn ei gwsg: ‘tic toc tic toc tic toc tic toc’. O’i gymharu â rhai o breswylwyr ‘anarferol’ Llareggub, prin yw ei gyfraniad, a gellir edrych heibio’i gymeriad yn hawdd.
Caiff ei bortreadu gan Thomas fel person anaddas, meudwyaidd a thlawd, person rhyfedd sy’n gwisgo hen ddillad ail-law o ffeiriau sborion, gan gynnwys ffrog-côt y ficer. Prin y caiff ei weld yn y gymuned, ac mae’n ‘rhedeg mas i ddiwel slops’… ac wedyn yn ‘rhedeg miwn to’ i’w ‘gwtsh cloëdig rhydlyd llychlyd’ ger yr harbwr yn Lôn Asyn, lle mae e’n byw ochr yn ochr â phreswylwyr sydd ag enw drwg am eu moesau, fel y fam ddibriod Poli Gardis, Dai Di-ddim a Dai Bara y mae ganddo ddwy wraig.
Yn ei gegin, mae e’ wedi amgylchynu’i hun â ‘chwe chloc a thrigain, sef un am bob blwyddyn o droeon dryslyd ei yrfa’, sy’n creu aflafaredd o sain (‘ping, clec, tic, taro, toc’) wrth iddo osod pob un ar oriau gwahanol byth a hefyd.
Gyda’i acen goeth (lleferydd a ystyrir yn un ‘crand’ ac yn nodweddiadol o rywun o ddosbarth cymdeithasol uchel), mae’n pwyntio’n glir at berson sydd wedi gweld dyddiau mwy crand; rhywun mewn twll, neu efallai’n ysglyfaeth amgylchiadau. Byddai hyn yn esbonio’i gasgliad o amseryddion, sy’n cynnwys rhai clociau mecanyddol anghyffredin a drud a weindiwyd â llaw: ‘clociau fel arch hwrligwgan Noa… clociau tynnu tonau, clociau Vesuvius o glychau a lafa, clociau Niagara….hen glociau dagreuol dan wisgers eboni’n wylo pob eiliad’. Cymaint yw ei gariad tuag atynt, mae e’ hyd yn oed yn cadw ‘clociau heb fysedd yn dal ati drwy’r amser heb obaith cael gwybod beth yw hi o’r gloch’.
Nid yw Syr Wili Watsh druan, gŵr hynod a gorffwyll, yn ymwybodol o ‘gorff maldodus y gwanwyn â’i fronnau’n orlawn o la’th afon mis Mai’ y tu fas; mae’n meddwl ei fod ar berwyl ystyrlon (eto’n gwbl ddibwrpas yn y pen-draw) felly mae’n rhaid iddo ‘sgathru o gloc i gloc allweddi yn un llaw a phenci yn y llall’ gan gynnal arfer dyddiol anhrefnus i’w cadw i gyd i fynd, er ei bod yn anodd dod o hyd i’r amser go iawn.
Ychwanegir ymhellach at ei hynodrwydd gan ei fod yn bwyta ‘pigo sgraps pysgodyn o fasin bwyd’ y ci ar y llawr yn ei ‘gegin seimlyd, bysgodlyd’ ac yn weindio’i glociau wrth ddal pen pysgodyn. Gellir ystyried y ‘truan o farchog’ hwn sy’n ‘byw ar bysgod’ yn gymeriad trasig-ddigri. Ac yntau’n gymeriad hynod, mae’n ‘byw mewn tŷ mewn bywyd dansherus’, mewn cyflwr cyson o effrogarwch rhag rhyw wrthdaro trychinebus rhwng da a drwg, a gyflawnir gan ‘elyn barbaraidd’ anhysbys.
Mae’n hysbys bod llawer o gymeriadau Dan y Wenallt yn seiliedig yn rhannol ar bobl go iawn y cyfarfu Thomas â nhw ac a ddefnyddiwyd ganddo yn ei ddrama. Yn ddiddorol, mae David N Thomas, yn ‘Dylan Thomas: A Farm Two Mansions and a Bungalow’, yn adrodd hanes y cyffelybiaethau sy’n dangos yr ysbrydolwyd Syr Wili Watsh gan Alistair Graham, meudwy rhannol a addysgwyd yn Rhydychen a gŵr o gefndir breintiedig a symudodd i Blas y Wern ger Cei Newydd ym 1936 ar ôl cael ei yrru allan o gymdeithas Llundain pan ddarganfuwyd ei berthynas anghyfreithlon (ar y pryd) ag Evan Morgan, Is-iarll Tredegar. Ar ôl iddo adael ei enw drwg ar ei ôl yn dilyn y sgandal, daeth Graham yn ŵr mawr ei barch, ac roedd yn hysbys ei fod yn amserwr obsesiynol, yn berchennog ci ac yn awdur pamffled o ryseitiau mecryll Cei Newydd.
O hydref 1944 i wanwyn 1945, roedd Dylan yn byw yng Nghei Newydd ac, ynghyd â’r milfeddyg lleol, daeth y tri yn gymdeithion a buont yn cwrdd mewn tafarndai lleol i drafod llyfrau. Roedd Graham hefyd yn cynnal partïon yr oedd y clic lleol yn mynd iddynt, gan gynnwys Dylan a ddisgrifiodd ef unwaith mewn llythyr fel ‘the thin vowelled laird’.
Mae David N Thomas yn rhagdybio mai clociau Syr Wili Watsh oedd ffordd Thomas o ddangos Graham yn ‘bwrw cyfnod amser’, fel cosb am ei garwriaethau, gan gynnwys un â’r nofelydd Evelyn Waugh. Roedd cyn bartner Graham, Evan Morgan, yn ymarferydd y gelfyddyd ddu, ac fe’i adwaenwyd fel y Mynach Du. Creodd ystafell ‘hud’ wedi’i chysegru i’r goruwchnaturiol a nododd William Cross, awdurdod ar Morgan, fod llawer o bobl a oedd yn agos ato’n aml yn marw’n annisgwyl, ac mewn amgylchiadau amhleserus.
I Syr Wili Watsh, mae anfarwoldeb yn gloc sydd byth yn arafu; mae e’ hyd yn oed yn breuddwydio am glociau yn ei gwsg. Ac yntau’n ymwybodol bod bywyd yn gallu stopio mor hawdd â chloc sy’n gorfod cael ei weindio, rhaid iddo aros mewn cyflwr o effrogarwch cyson rhag ‘gelyn barbaraidd’ ‘a ‘ddaw i ysbeilio a rheibio i lawr rhiw Armageddon ar Ddydd y Farn Fawr’. Ni fydd grymoedd goruwchnaturiol yn ei ddal yn ‘hepian’ gan ei fod wedi baricadu’i hun yn ei ‘gwtsh cloëdig rhydlyd, llychlyd tic toc ar waelod y dref’.
Gan gofio hyn oll, mae ei garwriaeth hollysol â’i glociau a’u ‘hwynebau gorffwyll, gweflog du a gwyn’ yn gwbl ddealladwy. Beth bynnag rydym yn ei deimlo am Syr Wili Watsh, ef yn sicr yw seren y sioe ryfedd hon, ac wrth i Thomas ein gadael i mewn i’w fyd preifat, rhyfedd, mae’n gadael argraff barhaol, os eithaf annifyr, o un o breswylwyr mwyaf rhyfedd Llareggub.
Linda Evans
This post is also available in: English