‘This Is Not A Poem’
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r blog gwadd hwn gan Eric Ngalle Charles a Greg Lewis, sy’n cyflwyno This Is Not A Poem, prosiect cyffrous rydym yn cydweithio arno.
Mae tîm arobryn yn cynhyrchu ffilm fer newydd a gaiff ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Dylan Thomas cyn taith fawreddog.
Barddoniaeth ar ffurf ffilm yw This Is Not A Poem sy’n archwilio materion amrywiaeth a hil ac yn dathlu goddefgarwch a dealltwriaeth.
Mae’n seiliedig ar eiriau’r bardd Eric Ngalle Charles sy’n dod o Cameroon, a ddaeth i Gymru bron i ugain mlynedd yn ôl i geisio lloches ac ers hynny mae wedi dod yn un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae Eric wedi perfformio yng Ngŵyl y Gelli ac wedi cynnal nifer o weithdai ysgrifennu yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae’r awdur Owen Sheers, sy’n gefnogwr brwd o waith Eric, wedi disgrifio ei waith fel un sy’n defnyddio “iaith theatrig unigryw”.
Mae Greg Lewis, cynhyrchydd gyfarwyddwr y ffilm, sydd wedi ennill gwobrau Bafta Cymru a New York Film & TV Festival, yn golygu ac yn ail-siapio nifer o gerddi Eric i naratif unigol sy’n disgrifio pam ei fod wedi gadael ei famwlad a sut yr ymgartrefodd yng Nghymru.
Thema ganolog y gwaith yw hunaniaeth a sut gall pob un ohonom ystyried ein hunain fel rhai â nifer o wahanol hunaniaethau ar yr un pryd: er enghraifft, un sy’n hannu o dde Cameroon, yn Affricanwr, yn Gymro. Neu yn Gymro sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, yn Brydeinig neu’n Ewropeaidd.
Mae themâu’r ffilm yn arbennig o berthnasol oherwydd y ddadl genedlaethol barhaus ynghylch mewnfudo a Brexit.
Bydd y ffilm yn rhan o ddigwyddiad arbennig lle bydd Eric yn trafod barddoniaeth a’i farn ei hun am hil a hunaniaeth ac yn annog trafodaeth gyda’r gynulleidfa.
“Rydym oll yn un,” meddai Eric. “Po fwyaf y gallwn ddeall ein hunain, hawsaf ydyw i gyrraedd pobl eraill a’u deall. Mae Greg a minnau wedi ymrwymo i neges o ddod â phobl yn nes at ei gilydd a gwneud cysylltiadau.
“Rwyf wedi gweithio gyda Chanolfan Dylan Thomas ers peth amser, ac rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw eto.
“Mae gweithio mewn adeilad sy’n ymroddedig i fardd mwyaf adnabyddus Cymru yn anrhydedd i rywun o’r tu allan fel fi, sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. “
Mae Canolfan Dylan Thomas yn bartner creadigol yn y ffilm, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn dilyn ei lansiad ym mis Medi, dangosir y ffilm mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru ac mae gwneuthurwyr y ffilm mewn trafodaethau â gwyliau yn yr Eidal, Groeg a’r Almaen er mwyn dod â hi i gynulleidfa ryngwladol.
Lluniau: Ffotograffiaeth Susy Fernandes
This post is also available in: English