Teithiau Dylan Thomas i America | Rhan 1
Mae Linda Evans yn edrych ar ddulliau teithio Dylan Thomas ar gyfer ei deithiau darllen o gwmpas yr UD ar ddechrau’r 1950au.
Yn ystod y 1940au, daeth Dylan Thomas yn fardd, yn ddarlledwr ac yn sgriptiwr llwyddiannus a mawr ei barch. Roedd wedi dal sylw noddwr cyfoethog, Margaret Taylor, a brynodd y Tŷ Cwch yn Nhalacharn, gorllewin Cymru, iddo ef, ei wraig Caitlin a’u plant, ac aethant i fyw ynddo ym mis Mai 1949, yn fuan cyn genedigaeth eu trydydd plentyn.
Yn yr un mis, derbyniodd Dylan yn llawen wahoddiad oddi wrth y bardd John Malcolm Brinnin (a oedd yn hoff iawn o farddoniaeth Dylan), i fynd ar daith darlithio a darllen o gwmpas canolfannau celfyddydau a phrifysgolion America. Roedd John newydd ei benodi’n gyfarwyddwr ar gyfer Canolfan Farddoniaeth y Gymdeithas Hebraeg i Ddynion a Menywod Ifanc yn Efrog Newydd, felly John oedd y person gorau i drefnu’r daith. Roedd Dylan yn teimlo’n ‘anrhydeddus iawn’, yn nerfus ac yn gyffrous at y syniad o’i daith gyntaf i’r Unol Daleithiau a’r partïon a’r derbyniadau a fyddai’n cael eu cynnal i’w anrhydeddu. Hefyd, roedd yn disgwyl cael arian hael iawn am ei ymrwymiadau darllen, ac roedd hyn yn syniad cyffrous iawn i ddyn a oedd, gan amlaf, yn dlawd ac mewn dyled.
O fis Chwefror 1950 tan ei farwolaeth cyn pryd yn America ar 9 Tachwedd 1953, byddai Dylan yn mynd ar bedair taith o America, gan ddechrau pob un yn Efrog Newydd. Teithiodd Dylan i’r UD saith gwaith – tair gwaith ar awyren a phedair gwaith ar long. (I fod yn hollol gywir, teithiodd ar long am y pumed tro wrth i’w gorff gael ei gludo’n ôl ar long fawr).
Roedd llongau mawr wedi ‘rheoli’r tonnau’ ers degawdau, ac ym 1950 dyma oedd y prif ffordd o deithio’n rhyngyfandirol, gan gludo cargo a phost yn ogystal â theithwyr. Hefyd trefnwyd teithiau rheolaidd i Efrog Newydd o borthladdoedd Prydain. Fodd bynnag, yn ystod y 1950au cynnar, roedd oes aur teithiau awyr trawsatlantig newydd ddechrau, ac roedd teithio ar awyren yn dod yn boblogaidd fel ffordd llawer gyflymach (er yn ddrytach) o deithio’n rhyngyfandirol. (Erbyn 1957 roedd teithiau awyr wedi cymryd lle llongau mawr fel y dull deithio mwyaf poblogaidd). Roedd Dylan wedi hedfan sawl gwaith yn y gorffennol, gan ddweud, ‘I like it up in the air, having frequently lived there’, a dewisodd hedfan ar gyfer ei daith drawsatlantig gyntaf.
Yn dilyn oediadau wrth geisio cael y fisa a oedd yn ofynnol i fynd i’r Unol Daleithiau, yr oedd wedi llwyddo i’w gael gan y Conswl Americanaidd yng Nghaerdydd gydag arian a fenthycwyd gan ei fam, teithiodd Dylan i Lundain gyda Caitlin, a ffarweliodd ag ef ym maes awyr Llundain (fe’i ailenwyd yn faes awyr Heathrow ym 1966). Ar 20 Chwefror, hedfanodd Dylan ar American Overseas Airlines (a gyfunodd â Pan American Airlines y flwyddyn honno). Mae dogfennau o’r archifau, sydd ar gael i’w gweld ar-lein, yn dangos bod Dylan wedi nodi ‘The Poetry Centre’ fel ei gyfeiriad ar y maniffest i deithwyr (dogfen sy’n rhestru cargo a theithwyr ar awyren neu long, at ddefnydd tollau a swyddogion).
Hedfanodd Dylan i Faes Awyr Rhyngwladol Efrog Newydd (a adwaenir yn gyffredinol fel maes awyr Idlewild ar y pryd, ond erbyn hyn mae wedi’i ailenwi’n swyddogol fel maes awyr John F Kennedy), ac roedd John Malcolm Brinnin yna i gwrdd ag ef ar fore braf ond hynod oer. Yn ei lyfr ‘Dylan Thomas in America’, mae’n cofio gweld y bardd am y tro cyntaf, ‘bundled like an immigrant in a shapeless rough woollen parka, his hair as tangled as a nest…his eyes wide, scared’ standing ‘in a sort of disconsolate huddle of himself, waiting for his bag’. Yna cododd Dylan ei law, gan wenu’n gyflym ar y dyn a fyddai’n ei dywys, fel ei reolwr, yn ystod y daith. Roedd ei brofiad ar yr awyren yn amhleserus; roedd yn hynod o boeth ar yr awyren, ac roedd e’n osgoi siarad â’i gyd-deithwyr llym a digroeso. Gras achubol y daith oedd y bar yn y dec isaf, lle treuliodd Dylan dipyn o amser yn mwynhau diod. (Roedd teithiau awyren trawsatlantig llawer yn hirach yn y 1950au, ac roedd rhaid glanio sawl gwaith ar hyd y ffordd. Fodd bynnag, roedd y cyfleusterau, er syndod, yn soffistigedig ac yn eang).
Ar gyfer ei daith adref, yn dilyn dros dri mis o ddod yn gyfarwydd â diwylliant America ac addasu i’r amserlen teithio brysur a oedd yn cyd-fynd â’i rôl newydd fel siaradwr gwadd a gŵr (gweddol) enwog, teithiodd Dylan ar y llong fawr i deithwyr, The Queen Elizabeth. Arhosodd John, ynghyd â grŵp o gefnogwyr, ar fwrdd y llong gyda Dylan nes iddi adael, ac mae’n cofio ‘a representative of the liner’s owners, the Cunard [White Star] Line, came to present the Company’s compliments to Dylan as a distinguished passenger’. Am ganol nos ar 31 Mai, gwyliodd John nes i’r chwiban gael ei chwythu, ‘and the gang-plank was hauled up and the Queen Elizabeth backed into the wash of her propellers and began to slide out to sea.’
Sawl diwrnod yn ddiweddarach, gadawodd Dylan y llong ym mhorthladd Southampton. Mae dogfennaeth o 6 Mehefin 1950, sy’n nodi manylion y teithwyr o Brydain a oedd yn dychwelyd, yn nodi swydd Dylan fel ‘awdur’, a’i gyfeiriad arfaethedig fel 1 Carlton House Terrace, Llundain, N.W.1. sef lleoliad The Savage Club, clwb bohemaidd i ddynion yr oedd wedi ymuno ag ef y flwyddyn gynt.
Yn ôl yn y Tŷ Cwch, ar 18 Mehefin, ysgrifennodd yn ei lythyr at Margaret Taylor, ‘I have visited over forty universities, schools and colleges’, travelling from New York on the east coast of America, to Los Angeles on the western coast of California.’ Erbyn diwedd ei daith brysur gyntaf, roedd Dylan yn awyddus i ddychwelyd at ei deulu. Ar ôl i John Malcolm Brinnin deithio i Gymru ym mis Gorffennaf 1951 ar gyfer arhosiad byr gyda’r teulu Thomas yn y Tŷ Cwch, trefnwyd ail daith – byddai Caitlin hefyd yn mynd gydag ef y tro hwn; caiff eu teithiau nhw eu trafod yn Rhan Dau.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English