‘Starlight Order’: o Y Gododdin i In Parenthesis
Gall y rhai a oedd wedi dwlu ar Nawr yr Arwr, y ddrama ryfel a berfformiwyd ar strydoedd Abertawe ac mewn adeiladau yn y ddinas yr wythnos diwethaf gael blas ar fwy o ddrama ryfel epig fis nesa.
4 Hydref yw Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ac i helpu i ddathlu hyn, mae Canolfan Dylan Thomas wedi curadu arddangosfa arbennig sy’n cysylltu dwy o gerddi epig enwocaf Cymru sef Y Gododdin ac In Parenthesis.
Mae’r Gododdin yn adrodd hanes criw melltigedig o ryfelwyr Celtaidd a Chymreig a fu’n brwydro yn erbyn y Saeson yng Nghatraeth tua’r flwyddyn 600 OC, ac In Parenthesis yw hanes personol milwr troed Seisnig a wynebodd berygl yng Nghoed Mametz ar anterth y lladdfa ym mrwydr y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd y ddwy gerdd wedi ysbrydoli dehongliad anhygoel yr ysgrifennwr Marc Rees o ryfel a’r dynion a’r menywod a ddaeth yn lladdedigon, yn anafusion ac yn arwyr yn Nawr yr Arwr, a gafodd gryn sylw dros bum noson yr wythnos diwethaf.
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, y bydd yr arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas – Starlight Order – o Y Gododdin i In Parenthesis – yn parhau tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Cyng. Francis-Davies, “Roedd Nawr yr Arwr yn ddigwyddiad gwirioneddol unigryw a bydd unrhyw a oedd yno’n meddwl tybed lle cafodd Marc Rees ei ysbrydoliaeth a’i fewnwelediadau. Mae’r arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddarganfod mwy am sut mae’n teimlo i fod yng nghanol yr anhrefn, y tywallt gwaed a’r arwriaeth sydd wrth wraidd rhyfela.
“Cynlluniwyd ein harddangosfa dros dro i gysylltu â themâu Nawr yr Arwr, ac mewn pryd ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Mae hefyd yn taflu goleuni ar amgylchiadau cyfarfod cyntaf Dylan Thomas â Richard Burton.
Nid oes neb yn gwybod pwy ysgrifennodd Y Gododdin, ond ymddangosodd gyntaf yn Llyfr Aneirin, y credir ei fod yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif. Mae’n adrodd hanes criw o oddeutu 300 o ymladdwyr Celtaidd a fu farw wrth frwydro yn nannedd anfanteision. Collwyd llawer o ffeithiau i hanes, ond yn ôl y stori, roedd cyn lleied ag un goroeswr o Gymru.
Mae In Parenthesis yn waith gan yr awdur o Gymru, David Jones, a phan gafodd ei gyhoeddi ym 1937, fe’i disgrifiwyd gan T S Eliott, un o feirdd pwysicaf yr 20fed ganrif, fel gwaith athrylith. Dywedodd W H Auden mai hwn oedd y llyfr pwysicaf i ddeillio o arswyd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Treuliodd Jones, a aned yn Lloegr, ddwy flynedd yn ymladd gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yr un gatrawd â’r awdur Robert Graves. Er gwaethaf y ffaith fod arwr y bardd yn Sais, mae llawer o’r stori’n hunangofiannol.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys arteffactau a lluniau yn ogystal â detholiadau o’r cerddi. Mae rhai o’r darluniau o’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Jones ei hun, a oedd hefyd yn artist modernaidd enwog. Cyflwynir yr arddangosfa mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chyda diolch i Ystad David Jones.
This post is also available in: English