Rydyn ni wedi bod yn brysur!
Rydym wedi cael haf prysur hyfryd o weithdai a gweithgareddau yma yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Gan ddefnyddio darllediad radio Dylan Thomas, ‘Holiday Memory’ fel ein man cychwyn, mae ein sesiynau wedi cynnwys creu dyddlyfrau, addurno papur ysgrifennu ac ysgrifennu llythyr arno, creu pypedau a theatr bypedau fach a chreu comics ein hunain.
Cynhaliwyd sesiynau ysgrifennu creadigol gydag Eloise Williams a Wendy White, ac aethom i Barc Brynmill i gynnal gweithdy ysgrifennu allgymorth am chwedl Jac Abertawe.
Mae ymwelwyr o bedwar ban y byd wedi ymuno â phobl o Abertawe i archwilio ein harddangosfa barhaol ‘Dwlu ar y Geiriau’ am fywyd, gwaith a chyd-destun diwylliannol Dylan Thomas, ac wedi galw heibio ein man dysgu i fwynhau’r gweithgareddau a drefnom.
Mae plant a phobl ifanc o bob oedran, a’u ffrindiau a’u teuluoedd, wedi cymryd rhan yn frwd ac rydym wedi dwlu ar weld eu dychymyg yn cael ei danio gan waith Dylan a’n rhaglen digwyddiadau fywiog.
Am fanylion digwyddiadau a gweithdai sydd ar ddod, ewch i dylanthomas.com/cy/digwyddiadau
This post is also available in: English