Rhamant a ddatblygodd yng Nghanolfan Dylan Thomas
Rydym yn falch o gyhoeddi blog gwadd sy’n cyffwrdd â’r galon gan Arron Bevan-John, Swyddog Datblygu Cymunedau, Partneriaethau a Chyrchfannau Abertawe.
Roedd yn fis Chwefror 2018, ac roeddwn wedi glanio ar fy nhraed. Roedd gan Alex a minnau rywbeth yn gyffredin nad oeddwn erioed yn disgwyl dod o hyd iddo mewn partner; cariad at farddoniaeth.
Gwnaethom gwrdd ar y dydd Sadwrn ac erbyn y dydd Sul roedd Alex a minnau’n cerdded o gwmpas Canolfan Dylan Thomas, gan chwerthin amr ffraethineb Dylan ac edmygu’r arteffactau gwych a oedd yn cael eu harddangos gan Jo a’i thîm gwych. Nid oedd Alex erioed wedi bod i’r ganolfan, felly roedd wedi synnu.
Roedd Canolfan Dylan Thomas yn lle roeddwn i’n ymweld ag ef yn aml. Roeddwn hyd yn oed yn dod â fy ‘mam’, fel y byddai Dylan wedi’i ddweud, i’r Ganolfan o bryd i’w gilydd. Fy hoff ran yw darllen y llythyrau a anfonwyd yn ôl ac ymlaen yn ystod bywyd byr Dylan, ac rwyf bob amser yn cael fy nychryn wrth glywed llais cadarn Benjamin Zephaniah yn darllen ‘Do not go gentle’, wedi’i ddilyn gan lais tawel y Tywysog Charles yn y bwth ffilmio y tu ôl.
Yn fy marn i, ‘Fern Hill’ yw darn o waith gorau Dylan. Mae’n dal fy sylw ac yn cynnwys popeth a oedd yn dda am Dylan. Mae’r ffordd dechnegol y rhoddwyd y geiriau at ei gilydd yn gwneud i mi feddwl am ei waith fel peiriant sy’n gweithio’n hawdd ac yn efffeithiol.
Rwy’n dwlu ar Ganolfan Dylan Thomas. I mi, mae’n dod â phopeth sy’n dda am Abertawe ynghyd. Ei phobl. Ei chreadigrwydd. Ei diwylliant.
A daeth ag Alex a minnau ynghyd hefyd.
Arron Bevan-John
This post is also available in: English