‘Return Journey’ a digwyddiadau eraill ym mis Chwefror
Digwyddodd un o ddigwyddiadau pwysicaf bywyd Dylan Thomas, ar lefel bersonol ac, o ganlyniad, ar lefel lenyddol bellgyrhaeddol, ym mis Chwefror. Fe’i hadwaenir fel y Blitz Tair Noson, rhwng 19 a 21 Chwefror 1941, pan gafwyd cyfres ddistrywiol o gyrchoedd bomio o’r awyr gan y Luftwaffe o’r Almaen yn nhref enedigol Dylan, Abertawe, a laddodd 230 o bobl. Dinistriwyd dros 850 o adeiladau (gan gynnwys nifer yng nghanol y dref), a difrodwyd miloedd eraill. Er y bu Dylan yn byw bywyd eithaf nomadig ers ei 20au cynnar, roedd yn teimlo bod ganddo gysylltiad agos o hyd â’r dref lle cafodd ei fagu, a bu’n aros gyda’i wraig Caitlin yng nghartref ei rieni yn Llandeilo Ferwallt, ychydig filltiroedd y tu allan i Abertawe, yn ystod y Blitz. Wrth iddo weld y difrod ei hun, meddai wrth ffrind, ‘…our Swansea has died. Our Swansea has died.’
Ar 7 Chwefror 1946, cyhoeddwyd un o gasgliadau barddoniaeth mwyaf adnabyddus Dylan, Deaths and Entrances, am y tro cyntaf yn Llundain gan J.M. Dent. Trafodwyd gwirionedd ac effeithiau erchyll yr Ail Ryfel Byd a’r Blitz Tair Noson yn nifer o’r cerddi yn y casgliad hwn, er enghraifft ‘Ceremony After a Fire Raid’ ac ‘Among Those Killed in a Dawn Raid was a Man Aged a Hundred’. Cafwyd ymateb cadarnhaol iddo, ac argraffwyd 3,000 mwy o gopïau yn fuan wedi i 3,000 o gopïau gael eu hargraffu’n wreiddiol, a helpodd y casgliad i atgyfnerthu ei enw fel bardd pwysig.
Flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Chwefror 1947, wrth i Abertawe barhau i glirio difrod y rhyfel, dechreuodd Dylan weithio ar yr hyn a ddaeth yn un o’i ddarnau mwyaf clodwiw ac ingol – ‘Return Journey’. Yn y ddrama radio hon, mae Dylan yn mynd ar daith trwy ddinistr Abertawe yn sgîl y rhyfel, wrth iddo geisio ailymweld â fersiwn ifanc ohono’i hun ac adennill Abertawe a fydd ar goll am byth ar yr un pryd. Mae’n gorffen gyda’r Dylan ifanc yn gofyn i geidwad Parc Cwmdoncyn (sydd gyferbyn â man geni Dylan), a oedd yn cofio’r bachgen ifanc a oedd yn ei dwyllo. Yr ymateb yw ‘Dead dead dead dead dead dead’. Fe’i darlledwyd yng ngwanwyn y flwyddyn honno ar BBC Home Service.
Ar nodyn ysgafnach, daeth 20 Chwefror 1950 yn garreg filltir nodedig yng ngyrfa lenyddol Dylan Thomas wrth iddo hedfan i Efrog Newydd i ddechrau ei daith darllen a darlithio hynod lwyddiannus gyntaf yn yr UDA, a oedd yn cynnwys colegau a phrifysgolion ar draws yr Unol Daleithiau a Chanada. Gan ei fod yn fardd sefydledig erbyn hyn, fe’i gwahoddwyd deirgwaith yn ychwanegol, ond daeth yr un olaf i ben mewn modd enbyd wrth iddo farw cyn ei amser yn 39 oed ym mis Tachwedd 1953.
Yn addas, ar 4 Chwefror 1954, dathlwyd bywyd a llwyddiannau Dylan mewn digwyddiad coffa, a gynhaliwyd yn Neuadd yr Ŵyl Frenhinol yn Llundain. Perfformiwyd detholiadau o’i waith ac er nad oedd ‘Return Journey’ yn y rhaglen, cafwyd darlleniad o gerdd Dylan ‘A Refusal to Mourn the Death, by Fire, of a child in London’, am ferch a fu farw wrth i’w chartref fynd ar dân yn ystod cyrch awyr.
Heb os, cafodd profiad Dylan o weld â’i lygaid ei hun y cyrchoedd awyr ym mis Chwefror 1941 a Llundain a ddinistriwyd oherwydd y rhyfel effaith fawr arno, a gwelir themâu megis marwolaeth a difrod yn llawer o’i waith o ganlyniad.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English