Polgigga – Blog Cernyw Rhan 1
Yn gynnar ym mis Mawrth 1936, derbyniodd Dylan Thomas, a oedd yn un ar hugain oed ar y pryd, wahoddiad dengar, ac atebodd yn gyffrous o’i gartref yn Abertawe, ‘Byddwn i wrth fy modd yn dod i Gernyw, a hynny’n fwy na dim: mae’n ymddangos fel yr hyn yr hoffwn iddo fod, a gallaf gyfansoddi cerddi ac ysgrifennu straeon…mae’r cyfan yn rhy hyfryd i fod yn dda; a byddwn i’n ei fwynhau cymaint’.
Roedd y llythyr oddi wrth Wyn Henderson, menyw yr oedd Dylan eisoes wedi’i chyfarfod yn Llundain, ac felly, yng nghanol mis Ebrill, roedd Dylan yn westai i Wyn yn ei bwthyn yn Polgigga, ‘lle bach iawn, llai na dwy filltir o Ben Tir Cernyw, ac yn agos iawn at Penzance a Mousehole’. Trefnwyd yr encilfa wledig hon, a oedd mewn ardal a oedd yn boblogaidd gydag artistiaid a chriw bohemaidd Llundain, gan ffrind i Dylan, sef y bardd Norman Cameron. Roedd e’n pryderu bod bywyd hedonistaidd Dylan yn Llundain yn cael effaith niweidiol ar ei greadigrwydd a’i iechyd.
Roedd Wyn, a oedd yn fam i dri o blant, wedi ysgaru ac yn ei 30au hwyr – roedd hi’n gerddor dawnus ac yn deipograffydd hyfforddedig nad oedd yn pryderu am ormodedd anian artistig y ‘Cymro corachaidd’, ac roedd ei chalon ‘yn llawn cariad a’i nerfau’n llawn alcohol’. Brîff Wyn oedd i ofalu am y dyn ifanc rhyfeddol a cheisio rhoi taw ar ei ormodeddau. Roedd hi’n fenyw ddilyffethair, yn wahanol i’w ‘Fam Gymreig’ faldodus ef a oedd wedi’i fagu mewn cywreinrwydd ‘fila mewn rhes broffesiynol dosbarth uchel’.
Ymhell o fywyd maestrefol, roedd yn rhaid i Dylan addasu i ddefnyddio tŷ bach allanol mewn ‘gardd a oedd yn llawn ffuredau a gwenyn’, gyda’r perygl o gael ei gnoi neu ei bigo ganddynt. Perygl arall oedd ci bach Wyn, yr oedd Dylan yn ei gasáu am ei fod yn neidio ar ei wely ac yn cnoi ei fol. Ysgrifennodd at ei ffrind da, Vernon Watkins, ‘mae’n wlad ddieithr i mi, yn llawn golyfgeydd a thirwedd, ac mae’n well gen i lethr sy’n rhwym am fryn maestrefol’ – er iddo gydnabod harddwch yr ardal brin ei phoblogaeth.
Er iddo deimlo’n ansefydlog gan y gwledigrwydd, dywedodd wrth Vernon ei fod yn gwneud ‘llawer iawn o waith’ yn ysgrifennu stori fer ac yn cwblhau cerdd. Er hyn, roedd yn poeni bod ei ysgogiad creadigol diatal cynharach yn pylu. Ni allai gael unrhyw ‘ryddhad go iawn, na gwasgaru, na gwanhau nac unrhyw beth i mewn i swmp corddol y geiriau’, ac roedd yn ‘pacio popeth yn dynn’ mewn ‘bag meddyg gwallgof’ â chlo, a oedd yn ‘llawn i’r clasb’.
Ysgrifennwyd adran olaf ond un y dilyniant sonedau ‘Altarwise by Owl-light’ yn Polgigga ac roedd Dylan hefyd yn cyfathrebu â’i gyhoeddwr, Richard Church, ynglŷn â chynnwys ei ail gasgliad barddoniaeth, Twenty-five Poems. Fodd bynnag, roedd ‘seibiant iachusol’ Cernyw yn llwyddiannus. Dywedodd wrth Vernon ei fod wedi gwella’n llwyr o’r ‘diffyg graen cyffredinol’ y deimlai pan gyrhaeddodd.
Ac eto, wrth iddo ysgrifennu at Elfriede Cameron, sylweddolodd nad oedd angen ‘llawer o anogaeth’ arno i ‘glecio’r botel, ond pan nad wyf yn y ddinas sy’n difetha dealltwriaeth dyn, dylwn i geisio cadw cwmni nad yw’n fy annog o gwbl’. Er gwaethaf ei fwriadau da, a’i brinder parhaus arferol o arian, ni lwyddodd i aros yn sobr. Un bore, dihangodd dros y caeau, a’r noson honno bu’n rhaid i Wyn, a oedd yn poeni amdano, gasglu ei gwestai meddw o dŷ tafarn lleol. Roedd Wyn hefyd yn mwynhau diod ambell waith. Dywedodd Dylan wrth Oswald Blakeston, a oedd yn ffrind i’r ddau, fod Wyn yn berson yr oedd ‘yn ei hoffi, ond pan fydd hi heb ddiod, mae’n ddiflas’. Aeth ei westeiwr ag ef i’r Logan Inn, Levan, i ddiota hyd yn oed, lle gwnaeth y ddau fwynhau’n fawr iawn.
Erbyn canol dydd, symudodd Dylan gyda Wyn i fwthyn bach ar fryn Ragnnis ym mhentref arfordirol Mousehole, cyn iddo ddychwelyd i Lundain lle’r oedd ganddo ymrwymiad. Ychydig a wyddai y byddai ymrwymiad o fath mwy arwyddocaol yn dod ag ef yn ôl i’r ardal honno yr haf canlynol, oherwydd cyn ei arhosiad yn Polgigga roedd wedi cwrdd â menyw ifanc drawiadol o’r enw Caitlin Macnamara.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English