Nancy Thomas: Rhan 3
Katie Bowman sy’n adrodd hanes Nancy ym 1932. Darllenwch ymlaen i gael gwybod am yr hyn sy’n digwydd nesaf yn ei bywyd.
‘My only sister passed through the stages of longlegged schoolgirlishness, shortfrocked flappery and social snobbery into a comfortable married life.’ – Dylan Thomas, Collected Letters, Tachwedd 1933
Roedd 1932 yn flwyddyn o gythrwfl i Nancy Thomas. Gyda Haydn yn Llundain, iechyd D J Thomas yn wael a’r teulu mewn trafferthion ariannol, roedd tipyn o densiwn yn Cwmdonkin Drive. Nododd Nancy ddigwyddiadau amrywiol yn ystod rhan olaf y flwyddyn yn ei llythyrau at Haydn, a gofnodwyd gan Andrew Lycett yn ei fywgraffiad, Dylan Thomas: A New Life. Yn y mis Medi, roedd achlysuron pan roedd Dylan wedi dychwelyd yn feddw yn hwyr y nos a dilynwyd hyn gan ddadleuon. Yn dilyn noson o’r fath, aeth Nancy i’r dref fore trannoeth gyda’i ffrind Gweveril Dawkins. Ar ôl iddi ddychwelyd adref, tarfwyd ar brynhawn cymharol dawel pan ddychwelodd D J : ‘A very usual Saturday scene… Mother raving and in tears – I, tiniest bit frightened, rush upstairs, dress, & go out in the rain.’ Ar achlysur arall, honnodd Nancy fod ei thad wedi rhegi arni ac wedi taflu llyfr at ei phen gyda’r datganiad ‘Who are you? Nobody cares what happens to you, it’s a pity you’re alive.’
Ar ôl dychwelyd o’i thaith i Flaencwm, nid oedd yn ymddangos bod pethau wedi gwella, gyda Nansi’n ysgrifennu at Haydn yn gofyn iddo chwilio am unrhyw fath o swydd iddi yn Llundain. Yn ariannol, roedd y teulu’n ei chael hi’n anodd, gyda Nancy’n benthyca arian gan y forwyn i gael stampiau i bostio’i llythyrau. Ni chafodd y cyhoeddiad swyddogol am ei dyweddïad â Haydn, a wnaed adeg y Nadolig, fawr o groeso. Honnir bod Florence wedi dweud: ‘remember Daddy won’t have any money & any sort of fuss will kill him. If you expect any sort of special fuss or clothes you ought to be ashamed of yourself…’
Efallai fod Nancy newydd ddyweddïo, ond ni ddaeth ei statws newydd ag unrhyw seibiant iddi o’i sefyllfa deuluol. Yn y mis Ionawr roedd hi’n cynghori ei ffrindiau benywaidd a ddaeth i ymweld i beidio â gadael eu bagiau llaw lan llofft gyda’u cotiau oherwydd y byddai papurau punt yn mynd ar goll o’u pyrsiau o bryd i’w gilydd. Dylan oedd y troseddwr drwgdybiedig. Byddai D J yn cwyno am ei bod yn darparu coffi a lluniaeth i’w gwesteion, gan ddweud mai ef oedd yn gorfod talu’r bil bwyd am ‘fwydo hanner Abertawe.’ Honnodd Nancy hefyd i Florence ei hatal un tro rhag ysgrifennu at Haydn gan fod a Dylan, a oedd bellach yn gweithio’n llawrydd, yn mynnu cael yr inc. Byddai Haydn yn ymweld ac yn aros yn Cwmdonkin Drive ar brydiau ond byddai’n sicrhau na fyddai’n gadael ei waled yn yr ystafell wely pan fyddai’n cael bath rhag ofn y byddai Dylan yn helpu ei hun i rywfaint o’r cynnwys.
Bu farw Modryb Annie Nancy a Dylan ym mis Chwefror 1933. Awgrymodd Andrew Lycett y bu’r Thomasiaid yn fuddiolwyr ariannol; yn fuan ar ôl ei marwolaeth roeddent wedi gallu cynyddu eu taliadau morgais, gan leddfu eu sefyllfa ariannol. Fodd bynnag, mae cyfraniad i Dylan Remembered Volume 1 yn awgrymu y cafwyd yr arian trwy fenthyca pellach. Priododd Nancy a Haydn ar 27 Mai 1933 yn Eglwys Illtud Sant yn Oxwich. Priodon nhw trwy drwydded arbennig gan nad oedd y naill na’r llall yn byw ym mhlwyf y pentref ar benrhyn Gŵyr.
Symudodd y pâr newydd briodi, i Laleham (ger Chertsey yn Surrey), i Wisteria Cottage. Yn ystod misoedd yr haf buont yn byw ar gwch preswyl wedi’i rhentu o’r enw Fairyland a gadwyd ar afon Tafwys. Ym mis Awst y flwyddyn honno aeth Dylan i aros gyda nhw ar y cwch preswyl. Dilynodd drama pan syrthiodd Dylan i mewn i afon Tafwys ar ôl dychwelyd yn hwyr o un o’r tafarndai lleol, a chan nad oedd yn gallu nofio, roedd yn rhaid i Haydn helpu i’w dynnu mas gyda bachyn cwch. Ar ddiwedd mis Awst, wythnosau’n unig ar ôl taith helyntus Dylan, cafodd D J Thomas ddiagnosis o ganser y geg. Teithiodd Haydn a Nancy yn ôl o Lundain i ymweld ag e’, a gyrru D J i Ysbyty Coleg y Brifysgol ar y 10 Medi i gael triniaeth wythnos o hyd a oedd yn cynnwys nodwyddau radiwm.
Ym 1934 teithiodd Dylan i Lundain ac arhosodd yn Laleham gyda Nancy. Ar un o’r ymweliadau hyn aeth â Pamela Hansford Johnson i gwrdd â’i chwaer a’i frawd yng nghyfraith. Nododd Andrew Lycett fod Pamela Hansford Johnson yn meddwl bod y ddau’n ‘obsesiynol o gonfensiynol.’ Mae’n bosib mae yn ystod yr arhosiad hwn y gwahoddodd Nancy Dylan i fynd i ddigwyddiad llenyddol yn Llundain. Roedd Doris Fulleylove yn cofio bod Nancy yn eithaf gofidus pan gyrhaeddodd Dylan yn hwyr yn gwisgo ‘trowsus gwyrdd a chrys oren a thei melyn’ – roedd cywilydd ar Nancy, a oedd yn ymfalchïo yn ei hymddangosiad. Fodd bynnag, o gofio bod Nancy wedi prynu ‘tei melyn llachar a phâr rhyfedd o fenig â llinyn’ i Dylan y Nadolig blaenorol, efallai mai hi oedd ar fai’n rhannol.
I’w barhau…
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas.
This post is also available in: English