Myfyrdodau ar gerdd Dylan Thomas ‘That sanity be kept’
‘That sanity be kept I sit at open windows,
Regard the sky, make unobtrusive comment on the moon,
Sit at open windows in my shirt,
And let the traffic pass, the signals shine,
The engines run, the brass bands keep in tune,
For sanity must be preserved’
Ar adeg ysgrifennu hwn, mae’r coronafeirws marwol yn lledaenu ar draws y byd. Mewn cyfnodau o ansicrwydd a chythrwfl emosiynol, mae pobl yn aml yn troi at ysgrifennu a darllen barddoniaeth i’w cysuro. Wrth i ni geisio ymladd teimladau negyddol â rhai cadarnhaol, mae gan y gerdd gyffredin hon y gallu diamser i daro nodyn emosiynol ynom, yn yr un modd â cherdd enwog Dylan Thomas ‘Do not go gentle into that goodnight’.
Yn y gerdd hon, mae Dylan, sy’n 18 oed ar y pryd, yn eistedd yn oddefol ger ffenest agored yng nghartref ei deulu yn Uplands, Abertawe, yn gwylio ac yn myfyrio ar olwg a synau gweithgareddau beunyddiol bodau dynol. Wrth iddo gymharu ei hun â bod goruchel hollweledol, ‘Jehovah of the west’, mae’n dod yn fwy ymwybodol o’r traffig sy’n mynd heibio, pobl yn torri gwair, ymwelwyr â’r parc a bandiau pres sy’n chwarae yn y faestref barchus hon. I’r bobl sy’n mynd heibio, mae’n ymddangos fel ffigwr eithaf ynysig sy’n anhynod gonfensiynol, yn arsyllwr o bell. Ac eto, mae Dylan yn llawn ansicrwydd creadigol, ac yn credu bod hyn yn digwydd oherwydd natur groesebol ei feddwl.
Er mwyn rhoi hynny mewn cyd-destun bywgraffiadol, ers ei arddegau roedd Dylan wedi’i ysgogi gan ei angen mewnol i fynegi ei hun, ac i ‘anelu am ddirgelwch ac ystyr’ trwy lenwi llyfrau ymarferion â cherddi ar gyflymder toreithiog. Pwrpas ei fywyd oedd ysgrifennu. Ymddangosodd y gerdd hon yn y Sunday Referee ym mis Medi 1933, cyhoeddiad llwyddiannus cynnar. Ond tua’r adeg hon, roedd yn pryderu bod ei greadigrwydd, a oedd yn hollbwysig iddo, yn arafu, ac y gallai ei farddoniaeth mwy anghyfarwydd a thywyll deillio o wallgofrwydd, sef ei ‘wir’ gymeriad. Mynegodd ei bryder yn y dyfyniad canlynol: ‘the chill clean air is just a superimposed sanity, a false cleanliness of mind forced upon me by the wind and the morning’. Ym mis Chwefror 1933, roedd yn poeni am yr hyn yr oedd yn ei ysgrifennu: ‘either lucid or nonsensical by the turns of my whirligig mentality’.
Yn gyffredinol, mae beirdd yn dyheu am fod yn unig, ac efallai y byddai rhyngweithio’n gymdeithasol wedi torri’r hud creadigol, felly wrth agor y ffenest ac aros am awel o normalrwydd diflas, mae Dylan yn ceisio ymladd yn erbyn tueddiadau ei feddwl, sef creu barddoniaeth o natur mewnsyllgar a thrist, ac yn ceisio cadw ffydd yn ei hun trwy fagu meddylfryd iachus. Fodd bynnag, nid yw’n llwyddo bob tro: mae’n meddwl am farwolaeth wrth iddo wylio plant yn chwarae’n ddiniwed, ac wrth iddo wylio cariadon yn cerdded braich ym mraich, mae’n meddwl am y canlynol: ‘beneath the laughs / What stands for grief, a vague bewilderment / At things not turning right’.
Mae’r gerdd yn cynnal teimlad o anesmwythder, a cheir tôn llonydd a sobr drwy’r holl gerdd. Mae’r ddelwedd o agor ffenestri’n cael ei hailadrodd tair gwaith yn ystod y gerdd, yn ogystal â’r enw ‘pwyll’, fel pe bai angen iddynt gydfodoli i greu sylfaen realistig i ymennydd athrylith lwyddo, er gwaethaf ei ‘ddiafoliaid gwrthwynebol’. Mae’r ymadrodd ‘That sanity be kept’ yn agor ac yn cloi’r gerdd, gan gynnal y syniad hwn drwy’r gerdd gyfan. Yn ddiddorol, byddem yn ystyried yr hyn mae’n ei wneud yn ymwybyddiaeth ofalgar heddiw, sy’n cynnwys ‘byw yn y presennol’, ailgysylltu â’r hyn mae ein cyrff yn ei deimlo, dod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau i ddeall ein hunain yn well a lleihau pwysau meddyliol a phryderon yn ystod cyfnodau anodd yn ein bywydau.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English