Mae Poetry Wales yn dod i Ganolfan Dylan Thomas!
Byddwn yn cynnal dau weithdy, a arweinir gan Natalie Ann Holbrow yn y bore a chan Jonathan Edwards yn y prynhawn.
Mae bod yn greadigol yn amgylchedd ysbrydoledig Canolfan Dylan Thomas yn ffordd berffaith o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas eleni.
Mae manylion llawn a gwybodaeth am gadw lle ar gael yma: http://bit.ly/36vJwFY
Gweithdy 1, 10.30am – 1pm
Harddwch a’r Tywyllwch – Creu Barddoniaeth gan ddefnyddio Profiadau Negyddol gyda Natalie Ann Holborow
‘Rwy’n clywed ac rwy’n anghofio, rwy’n gweld ac rwy’n cofio, rwy’n ysgrifennu ac rwy’n deall.’ – Dihareb Tsieineaidd
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgrifennu fel ffurf ar therapi wedi cael sylw cynyddol yn y cyfryngau prif ffrwd. Profwyd bod gan ysgrifennu effeithiau buddiol i dd
ioddefwyr PTSD a dementia, lle gall datgeliad llafar fod yn anodd. Roedd yn bwnc perthnasol iawn yn ystod symposiwm barddoniaeth a meddygaeth Hippocrates eleni, a chafodd ysgrifennu fel ffurf ar therapi ei drafod yn frwd ymysg gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd iechyd a llenyddiaeth.
Yn y gweithdy hwn, bydd y bardd arobryn Natalie Ann Holborow yn taflu goleuni ar y broses ysgrifennu ar gyfer ei hail gasgliad, Small, a chyhoeddir yn hwyrach eleni. Mae’n canolbwyntio ar greu cymeriadau o elfennau anniriaethol er mwyn ysgrifennu rhyddiaith-barddoniaeth drawiadol – meddyliwch am y frân yn Grief is the Thing With Feathers gan Max Porter, er enghraifft. Trwy drosiadau a delweddaeth, lleisiau unigryw a naratif diddorol, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio pethau negyddol i greu celf trwy ddefnyddio cymeriadau a llais mewn barddoniaeth.
Gweithdy 2, 2pm – 4.30pm
‘Hen Wlad fy Nhadau’ – Ysgrifennu am Gymru gyda Jonathan Edwards
‘Brooded over by mist, more often than swirled about by cloud, drizzled rather than storm-swept, on the western perimeter of Europe lies the damp, demanding and obsessively interesting country called by its own people Cymru.’ – Jan Morris
Gyda’i hanes a’i daearyddiaeth, ei phobl a’i thirwedd, ei synnwyr digrifwch a’i gorfoledd, mae Cymru’n un o’r gwledydd mwyaf diddorol a hardd yn y byd. Mae’n gartref i Gillian Clarke a Dylan Thomas, Shirley Bassey a Gareth Bale, Eryri a Llwybr Arfordir Sir Benfro, Gwrthryfel y Siartwyr a Therfysgoedd Beca.
Nod y gweithdy fydd cynhyrchu barddoniaeth a fydd yn defnyddio harddwch ein tirwedd a chyfoeth ein hanes. Byddwn yn edrych ar nifer o gerddi fel enghreifftiau, gan ystyried sut y mae Cymru’n cael ei chyflwyno, yn ogystal â rhannu straeon hanesyddol a chwedlonol a rhai am gymeriadau lleol. Os hoffech ysgrifennu mewn modd sy’n dathlu harddwch Penrhyn Gŵyr, sy’n archwilio realiti anodd dinasoedd Cymru neu sy’n caniatáu i chi ddychmygu’ch hun yn esgidiau gwrthdystiwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn gorymdeithio i lawr Stow Hill, dyma’r gweithdy i chi.
Gobeithio erbyn y diwedd y bydd gennym amrywiaeth o gerddi sy’n talu teyrnged i’r wlad hyfryd, gymdeithasgar, ysbrydolus ac angerddol hon o’r enw Cymru!
Mae manylion llawn a gwybodaeth am gadw lle ar gael yma: http://bit.ly/36vJwFY
This post is also available in: English