Llwybr Canol Dinas Dylan Thomas
Disgrifiodd Dylan Thomas Abertawe’n enwog fel ‘ugly, lovely town, (or so it was, and is, to me)’. Er gwaethaf effeithiau dinistriol y Blitz Tair Noson ym 1941, mae llawer o Abertawe Dylan yn parhau i fod yn gyfarwydd. Mae ein Llyfryn Llwybr Canol Dinas Dylan Thomas newydd yn helpu pobl i ddarganfod ‘stained and royal town’ Dylan drostynt eu hunain, gyda geiriau’r dyn ei hun i’ch tywys ar eich taith.
Mae’r llwybr yn dechrau yn yr arddangosfa barhaol ‘Dwlu ar y Geiriau’ yng Nghanolfan Dylan Thomas, yna’n mynd i Sgwâr Dylan Thomas a chartref presennol Little Theatr Abertawe, y cwmni y bu Dylan yn actio gydag ef pan yn ddyn ifanc. Byddwch yn mynd heibio i nifer o adeiladau yr adnabu’n dda gan Dylan, o Westy’r Frenhines, i Amgueddfa Abertawe, ‘the museum which should have been in a museum’, a hebio hen Adeiladau’r Exchange a hen swyddfeydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Gwesty Morgan’s bellach.
Ar Stryd y Gwynt a’r Stryd Fawr y ceir llawer o olion yr ‘young dog’. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, bu’n gweithio am oddeutu 18 mis fel gohebydd iau gyda’r South Wales Daily Post, a oedd wedi’i leoli ger ‘the fragment of the castle’ ar ben uchaf Stryd y Gwynt. Roedd hwn yn amser ffurfiannol iddo, wrth iddo archwilio Abertawe a oedd ymhell o faestrefi dosbarth canol ei blentyndod. Cyflwynodd gohebwyr hŷn, fel Freddie ‘Half Hook’ Farr, Dylan i rai o dafarnau’r ardal, megis tafarn y Fishguard Arms sydd wedi’i dymchwel erbyn hyn, lle ‘you can see the sailors knitting there in the public bar’. Bu Dylan ar aseiniadau i’r ysbyty lleol a’r marwdy, lle ‘he went pale green, mun’, y tro cyntaf iddo weld corff.
Er bod amser Dylan gyda’r Post yn fyr gyda llwyddiant cymysg, roedd yn amser pwysig iddo fel unigolyn ac fel awdur, yn mireinio ei gydwybod gwleidyddol, a’i gyflwyno i bobl, lleoedd ac ardaloedd cyfan nad oedd wedi’u profi o’r blaen. Roedd y cymeriadau, y digwyddiadau a’r sefyllfaoedd hyn yn lled-ffuglennol mewn straeon yn Portrait of the Artist as a Young Dog, a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach ym 1940. Ac mae darllediad radio ysgogol ac atgofus Dylan, ‘Return Journey’ (1947), sy’n nodi dinistriad y Blitz drwy ymgais y siaradwr i ganfod ei fod ifanc, yn dechrau ar y Stryd Fawr.
Mae’r llwybr yn parhau heibio safle Sinema’r Plaza, lle bu Dylan a’i ffrind, Bert Trick, yn protestio yn erbyn Oswald Mosley a’i Grysau Duon mewn gwrthdystiad a drefnwyd gan y comiwnyddion, a‘r YMCA, lle bu Dylan yn actio yn Neuadd Llewelyn. Byddwch yn teithio heibio i Number 10, Marchnad Abertawe ac Eglwys y Santes Fair, cyn i’r llwybr orffen yn y No Sign Wine Bar, un o ffefrynnau eraill Dylan.
Pris Llwybr Canol y Ddinas yw £2 ac mae ar gael o siop Canolfan Dylan Thomas neu drwy ffonio’r ganolfan ar 01792 463980.
This post is also available in: English