Ni yw’r Lleoliad Gorau i Deuluoedd yn y DU!
Waw! Dyna anrhydedd!
Lleoliad Gorau i Deuluoedd yn y DU!
Neithiwr, cawsom ein henwi’n Lleoliad Gorau i Deuluoedd y DU yn seremoni wobrwyo Fantastic for Families yn Theatr Carriageworks, Leeds. Roedd dros 25 o sefydliadau o bob cwr o’r DU yn cystadlu am deitlau nodedig megis Digwyddiad Gorau i Deuluoedd a’r Croeso Gorau sy’n Ystyriol o Oed.
Cystadleuaeth ar draws y DU i leoliadau celfyddydol a diwylliannol yw’r Gwobrau Fantastic for Families. Mae dros 500 o leoliadau yn y DU sydd wedi’u hachredu gyda bathodyn Safonau Celfyddydau’r Teulu, sy’n golygu eu bod nhw’n dilyn arweiniad eglur wrth groesawu teuluoedd i sefydliadau celfyddydol, gan gynnwys ystyried pa gyfleusterau a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd.
Cynhelir Fantastic for Families gan Family Arts Campaign, rhaglen gydweithredol, genedlaethol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac a arweinir gan sectorau’r celfyddydau gweledol a pherfformio i gynyddu lefelau cyfranogiad teuluoedd yn y celfyddydau.
Roedd yn rhaid i ni guro cystadleuwyr bendigedig eraill megis: artsdepot, Neuadd Ffilharmonig Lerpwl, Oriel Gelf a Pharc Compton Verney a’r ‘Point‘ (dartiau), ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein cydnabod fel y Lleoliad Gorau i Deuluoedd yn y DU, yn ôl ‘Fantastic for Families’.
Yn ôl geiriau Dylan Thomas, ‘Thank you with all my heart, from the depth of my teapot, from the marrow of my slippers warm before the fire.’
Rydym yn falch o’r ffaith ein bod yn gwneud ein gorau glas i gynnwys teuluoedd gymaint â phosib. Wyddech chi, o ddechrau arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ rydym wedi dod â phobl o bob oedran ynghyd i sicrhau bod ein harddangosfa’n addas i bawb? Ond nid yr arddangosfa’n unig sy’n gwneud Canolfan Dylan Thomas yn addas i deuluoedd, mae’r staff y tu ôl i’r ddesg ac yn y swyddfa gefn yn cyfrannu’n sylweddol hefyd wrth groesawu’r holl ymwelwyr â gwên wrth wneud yn sicr y caiff pawb amser da yn ein harddangosfa ac yn ystod ein gweithgareddau.
Diolch i’r rhai sydd wedi cefnogi’n harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ a’n rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod y blynyddoedd diweddar. Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu parhau i addysgu, ymgysylltu ac ysbrydoli llawer mwy o ymwelwyr yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod!
Oddi wrth bob un ohonom yng Nghanolfan Dylan Thomas – diolch o galon i chi! 🙂
This post is also available in: English