Lleoedd Ysgrifennu Dylan: Carafán Swydd Rydychen
Yn ei blog diweddaraf, mae Linda’n edrych ar le anghyffredin arall lle’r oedd Dylan yn arfer ysgrifennu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r sied gardd ddi-nod wedi dod yn boblogaidd eto fel lle domestig aml-ddefnydd i ‘ddianc’ iddo. Hefyd, mae cabanau pren, carafanau sipsiwn a hyd yn oed tai pen coed bellach yn ddymunol iawn fel llety gwyliau dymunol.
Roedd Dylan Thomas yn teimlo bod lleoedd bach caeëdig yn rhoi’r heddwch iddo fod yn greadigol, i ffwrdd o’i deulu ifanc a oedd yn tarfu arno’n aml. Ei sied ysgrifennu yn Nhalacharn yw’r enghraifft enwocaf, ond mae’n llai adnabyddus ei fod wedi ysgrifennu rhannau o’i ddrama ‘Dan y Wenallt’ mewn carafán sipsiwn yng nghefn gwlad Rhydychen.
Ym mis Medi 1947, pan roedd yn wynebu dychwelyd o dramor (ar ôl nifer o fisoedd yn yr Eidal) heb gartref i fyw ynddo, gofynnodd Dylan yn druenus i’w noddwr, Margaret Taylor, ‘You will help about a house, won’t you? I’m as homely as a tea-caddy, but have no pretty pot’. Roedd yr ymbil wedi gweithio; daeth o hyd i ‘blasty’, a oedd yn swnio’n foethus iawn, i’r teulu ym mhentref South Leigh, ger Witney, deg milltir y tu allan i Rydychen lle’r oedd cysylltiadau rheilffordd da i Lundain. Dyma oedd eu cartref cyntaf mewn saith mlynedd, ond yn anffodus, roedd yn fach, yn llaith ac nad oedd ganddi ystafell ymolchi neu dŷ bach y tu mewn. Roedd Dylan yn ei ddisgrifio fel ‘‘a poky cottage full of old people [roedd wedi dod â’i hen rieni i fyw yn South Leigh], animals and children’.
Gan fod Margaret yn poeni nad oedd gan ei protégé ddigon o heddwch i fodloni’r dyddiadau cau ar gyfer ei waith ac ennill arian, bodlonodd ei ofynion pan ofynnodd ef am garafán. Mae Caitlin yn ei chofio hi’n dod â ‘gypsy caravan down from Oxford’, ac mae mab y postfeistr lleol, Bill Green, yn cofio ceffyl yn cael ei logi yn Witney i’w symud i’r cae mawr ger y plasty: ‘it was one of those old-fashioned gypsy caravans, all painted different colours, golden-brown and yellow’ gydag olwynion haearn. Ar y tu mewn roedd dau wely cul a oedd yn plygu, stôf primus a gwresogydd paraffin – ‘he’d got his table in the front. He used to push the rear and sit looking out…With his knees under the table, and writing away’. Yn fuan wedyn, datblygodd Dylan arfer o fynd am beint ar ddiwedd y bore yn y Mason Arms ac yna byddai’n dweud ‘Well, I’ve got to put my knees under the table…and do some writing’. Fodd bynnag, ar adegau byddai Dylan yn ysgrifennu am ddyddiau ac yn osgoi yfed yn y dafarn.
Yn sicr, daeth y garafán orliwgar yn fagwrfa o greadigrwydd gan fod gan Dylan amserlenni i’w bodloni ar gyfer ysgrifennu sgriptiau ffilm, ac roedd hefyd yn ymrwymo’i hun i gomisiynau ar gyfer y BBC. Yn ystod ei amser yn South Leigh, ysgrifennodd at y bardd o Gymru, John Ormond: ‘A radio play I am writing has Laugharne, though not by name, as its setting’, a ddaeth yn ‘Under Milk Wood’ yn ddiweddarach. Roedd ganddo hefyd yr amser i ysgrifennu drama (sydd ar goll erbyn hyn) ar gyfer adloniant Nadoligaidd blynyddol y gymdeithas ddrama leol.
Yn y cyfamser, roedd Caitlin yn mynd yn fwyfwy rhwystredig ac yn grac. Roedd rhieni Dylan yn anwybyddu ei arferion yfed, aeth yn absennol yn Llundain yn aml, ac roedd Margaret yn ymweld yn aml â’r garafán i weld Dylan – ‘[she] didn’t give a damn about me or the children. I turned that caravan over once with Dylan inside it, so she had it moved…down into an orchard near the post office’.
Daeth y pentrefwr a’r actor, Harry Locke, yn ffrind da i Dylan i Caitlin. Ar un adeg, roedd Dylan wedi ei wahodd i’w carafán Wrth agor y drws, cafodd ei synnu gan yr awyrgylch drewllyd: ‘and it was full of flies, big bluebottles…and brown bottles! And a drawer full of papers! I said: Dylan – open the window! It stinks in here!’. Yn hwyrach, dywedodd Dylan wrth Harry ei fod wedi ei gynnwys yn ‘Dan y Wenallt’ fel y cymeriad No Good Boyo, ac ymatebodd hynny trwy ddweud, ‘You sod!’
Ym mis Mai 1949, pan symudodd y teulu i’r Tŷ Cwch yn Nhalacharn, gwnaeth Dylan fabwysiadu garej pren i ysgrifennu ynddo. Fodd bynnag, o fis Hydref 1951 i fis Ionawr 1952, roedd Dylan a’r garafán sipsiwn yn ôl yng nghwmni ei gilydd am sbel pan symudodd y teulu i fflat islawr yn rhanbarth Tref Camden yn Llundain, yn agosach at y cyfleoedd ar gyfer incwm. Erbyn hyn roedd gan y teulu Thomas eu trydydd plentyn, felly roedd angen lle preifat hyd yn oed yn fwy. Llwyddodd Margaret i symud y garafán sipsiwn o South Leigh i gornel yr ardd lle treuliodd Dylan amser yn ysgrifennu gyda’i bengliniau o dan y bwrdd – arhosodd y garafán yno wedi iddynt ddychwelyd unwaith eto i Gymru.
Cafodd ei hailddarganfod yn 2013 gan fywgraffydd Dylan, Andrew Lycett, a oedd yn chwilfrydig am ei dynged. Mewn erthygl papur newydd mae’n cofio gweld adeiledd adfeiliedig wedi’i orchuddio gan darpolin, rhyw fath o ‘sied ogoneddus’, ond roedd yn gallu ei hadnabod o hen luniau. Roedd yn ei hystyried fel ‘an important part of Camden’s history’ ac yn werth ei hadfer gyda chyllid priodol. Heddiw, hoffem weld ei photensial fel cartref gwyliau unigryw iawn gyda hanes llenyddol diddorol.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English