Gwneud tei bô llyfr
Un o’r pethau difyr rydym yn dwlu ar wneud ar Ddiwrnod y Llyfr yw gwisgo fel hoff gymeriad o lyfr a drysorir. Ond ydych chi erioed wedi gwisgo fel awdur o’r blaen? Mae’r bardd o Abertawe, Dylan Thomas, yn enwog am wisgo tei bô, a wnaeth iddo edrych yn hynod yn rhai o’i berfformiadau mwyaf enwog. Fel y gallwn gydnabod ein bardd mewnol, rydym wedi gosod her i chi ddylunio’ch tei bô eich hun – gyda phwyntiau ychwanegol am lyfrgarwch!
Gallwch ddefnyddio unrhyw beth i wneud eich tei bô – cyhyd ag y bo’n ddiogel i eistedd ar ardal eich coler fel tei bô a chyhyd ag y bo’r siâp yn debyg i dei bô (gweler y templed a’r arweiniad darluniedig isod os nad ydych yn siŵr o’r siâp). Rydym wedi cynnwys enghreifftiau o’n hymdrechion eich hunain i ddeffro’ch dychymyg, a hoffem i chi anfon llun o’ch tei bô gorffenedig atom gyda’r stwnshnod #TeiBôLlyfrgar. Os nad yw’n hawdd cysylltu’r eitemau rydych wedi’u dewis wrth eich coler, gallech orwedd ar y llawr i gael tynnu’ch llun, a chydbwyso’ch tei bô y ffordd honno – mae hyn yn ymwneud â bod yn greadigol, nid yn ymarferol!
Rydym hefyd wedi llunio gweithgaredd syml er mwyn gwneud tei bô papur. Defnyddiwch y templed isod a’i roi dros unrhyw ddarn o bapur neu gerdyn o’ch dewis. Os nad oes gennych argraffydd, tynnwch betryal 15cm x 10cm a phlygwch y consertinas yn ôl ein cyfarwyddiadau. Cofiwch addurno’ch tei bô cyn i chi ddechrau ei blygu. Gallwch ddefnyddio paent, pensiliau neu unrhyw beth yr hoffech!
Mae tudalen ar wahân o eiriau o gerddi Dylan wedi’i chynnwys hefyd fel y gallwch ei hargraffu a defnyddio’r templed i dorri tei bô llawn geiriau allan. Os nad oes gennych argraffydd, gallwch gopïo rhai o’r geiriau ar y darn o bapur neu’r cerdyn rydych wedi dewis ei ddefnyddio.
Mwynhewch! Edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau. Rydym yn @CDTAbertawe ar Twitter, a www.facebook.com/CanolfanDylanThomas
Arweiniad
Tei bô consertina
- Torrwch y templed petryal a’i roi ar y darn papur neu gerdyn o’ch dewis. Gallwch hepgor y cam hwn drwy ddefnyddio’r templed ei hun a’i liwio.
- Plygwch ar hyd y llinellau dotiog i greu siâp consertina. Os ydych chi wedi’i roi fel templed, bydd angen i chi dynnu tywyslinellau ar eich papur neu gerdyn, ar bellter o 1cm.
- Gosodwch ddarn o gortyn neu ruban, tua 10cm o hyd, rhwng y plygiadau canolog. NI fydd hyn yn cael ei glymu o gwmpas y gwddf ond caiff ei ddefnyddio i helpu i gysylltu’r tei bô gan ddefnyddio clip.
- Gwasgwch y consertina ynghyd yn y canol i glymu’r cortyn yn dyn a chreu siâp tei bô.
- Gludwch, styffylwch neu dapiwch nhw ynghyd ar y pwynt lle mae eich bys yn gwasgu, gan glymu’r cortyn yn dyn yn y canol wrth i chi wneud hyn. Yna clymwch gwlwm ar ddau ben y cortyn i greu dolen.
- Cysylltwch y tei bô drwy osod clip papur, clip gwallt neu glip crafanc ar y cortyn a’i glipio i’ch crys. Os oes oedolyn yno, efallai yr hoffech chi ddefnyddio pin diogelwch.
Torri’r tei bô allan
- Torrwch o gwmpas y sip tei bô.
- Addurnwch eich tei bô fel y dymunwch. Gallwch ddefnyddio’r siâp hwn sydd wedi’i dorri allan fel templed ar gyfer darn arall o gerdyn, neu gallwch ei addurno’n fel y mae.
- Plygwch y fflapiau tuag yn ôl ar hyd y llinellau dotiog.
- Defnyddiwch dâp selo, styffylwr neu lud i lynu’r fflapiau ynghyd yn y cefn.
- Defnyddiwch glip papur, clip gwallt, clip crafanc neu bin diogelwch i’w gysylltu wrth goler y crys.
This post is also available in: English