Gweithdai Ysgrifennu Newydd i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid Abertawe
Yn dilyn derbyn cyllid gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn croesawu’r bardd, y dramodydd a’r nofelydd arobryn, Eric Ngalle Charles, unwaith eto i Ganolfan Dylan Thomas ddydd Llun 4 Mehefin.
Ysbrydoliaeth gwaith ysgrifennu Eric, sy’n dod o Cameroon, yw ei brofiadau trawmatig ar ôl iddo adael ei famwlad pan ddaeth yn ddioddefwr masnachu pobl yn hytrach na chael lloches fel roedd e’n gobeithio. Mae’r cyhoeddwr clodwiw, Parthian, ar hyn o bryd yn golygu ei hunangofiant sy’n cofnodi ei helynt o geisio lloches yn y DU. Wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Lenyddiaeth Cymru’n ddiweddar, a chyda’i ddrama ddiweddaraf “The Last Ritual” i gael ei pherfformio yng Ngŵyl y Gelli eleni, mae Eric Ngalle Charles ar frig ei yrfa.
Bydd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gallu mynd i weithdai ysgrifennu creadigol Eric yng Nghanolfan Dylan Thomas AM DDIM, a byddant yn cael eu had-dalu am gostau teithio. Mae croeso i blant fwynhau’r posau a’r gemau sydd yn ein siop Cornel Lyfrau ar yr amod eu bod yng nghwmni eu rhieni. Darperir lluniaeth hefyd.
Yn y sesiynau hyn, a fydd yn para dwy awr, gall cyfranogwyr drafod eu profiadau personol mewn amgylchedd creadigol a diogel, dan arweiniad tiwtor sy’n ysgrifennwr profiadol, ond sydd hefyd yn sensitif i’r materion sy’n effeithio ar y rhai sy’n ceisio lloches yn benodol.
Cynhelir y sesiynau dwy awr o 10.30am i 12.30pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 4 Mehefin
Dydd Iau 7 Mehefin
Dydd Mawrth 12 Mehefin
Dydd Iau 14 Mehefin
Dydd Llun 18 Mehefin
Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Ffoaduriaid, bydd Eric yn gwahodd cyfranogwyr y gweithdai i berfformiad barddoniaeth byw yn Amgeuddfa Genedlaethol y Glannau ar 20 Mehefin o 4.00pm i 8.00pm. Bydd hyn yn hollol ddewisol ond bydd y rhai sy’n derbyn y gwahoddiad yn cael profiad arbennig iawn.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiectau sy’n cael eu cefnogi gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, ewch i: www.wrc.wales
This post is also available in: English