Gêm Parau ‘Holiday Memory’


Oes gennych chi gof gwych? Mae’n amser i’w profi gyda’n gêm ar thema ‘Holiday Memory’ gan Dylan. Rydym wedi creu 12 pâr o gardiau, ac mae pob un ohonynt yn dangos llun o rywbeth mae Dylan yn ei drafod yn ei ddarllediad radio bywiog am ddiwrnod poeth mis Awst ar draeth yn Abertawe.
Cam 1
Argraffwch ddau gopi o’r ddwy daflen ddelweddau, naill ai ar bapur A4 neu gerdyn ysgafn. (gallwch hefyd gludo’r delweddau i’r cerdyn os oes well gennych).

Cam 2
Os hoffech chi ychwanegu ychydig o grefft at eich diwrnod, gallwch eu lliwio! Neu, mae croeso i chi eu gadael nhw’n ddu a gwyn os ydych chi’n rhy awyddus i chwarae.

Cam 3
Torrwch ar hyd y llinellau dotiog i greu set o 24 o gardiau.
Sut i chwarae:
Cymysgwch y cardiau ac yna eu rhoi ar fwrdd neu arwyneb cadarn, wyneb i lawr. Gallwch eu trefnu mewn rhesi NEU eu gadael mewn llanast – ond mae angen i bob cerdyn fod yn ei ardal ei hun ac ni ddylent gyffwrdd â’r cardiau cyfagos.

Pan fyddwch yn barod, penderfynwch ar bwy fydd yn dechrau’n gyntaf. Mae pob chwaraewr yn troi dau gerdyn i bawb eu gweld. Os bydd y cardiau’n bâr, yna mae’r chwaraewr yn eu cadw ac yn eu tynnu nhw allan o’r gêm. Os nad ydynt yn bâr, trowch y cardiau’n wyneb i waered unwaith eto – ond mae angen i bawb geisio cofio’r hyn maen nhw wedi’i weld er mwyn ceisio llwyddo ar eu tro nesaf.
Daw’r gêm i ben pan fydd yr holl gardiau wedi eu tynnu allan o’r gêm yn eu parau perthnasol. Yr enillydd yw’r unigolyn â’r nifer mwyaf o gardiau. Mwynhewch!
This post is also available in: English