Florence Thomas: Rhan dau
Yn yr ail mewn cyfres o flogiau am Florrie Thomas, mae Katie yn edrych ar ei bywyd fel mam i ddau blentyn.
I Florence, roedd iechyd a lles ei phlant yn flaenoriaeth. Roedd y ddarfodedigaeth yn bryder mawr. Bu farw tad Florence ym 1905 a byddai’n aml yn dweud wrth bobl mai’r achos oedd y ddarfodedigaeth neu dwbercwlosis (er mai niwmonia oedd ar ei dystysgrif marwolaeth). Yn ogystal â cholli’i chyntaf anedig, yn Dylan Remembered Volume One, dogfennir bod gan Florence frawd a chwaer a fu farw yn ystod eu plentyndod, Sarah Jane a David George. Roedd tystysgrif marwolaeth David yn dweud mai achos y farwolaeth oedd ‘phthisis’ sef twbercwlosis ysgyfeiniol yn ôl pob tebyg.
Er bod Dylan yn faban iach pan gafodd ei eni, dywedodd Addie Elliot, a fu’n cynorthwyo’r fydwraig, ei fod yn faban bach iawn ac nid oedd yn tyfu’n gyflym. Roedd e’n llefain cryn dipyn ac yn peri llawer o bryder oherwydd doedden nhw ddim yn gallu darganfod pam ei fod yn llefain. Roedd Florence a DJ yn mwynhau mynd i’r theatr leol ar nos Wener – roedden nhw’n hoffi’r ‘Empire variety show’- a byddai Addie yn gwarchod. Mae hi’n cofio y byddai Dylan yn llefain o’r funud y bydden nhw’n gadael tan y funud y bydden nhw’n dychwelyd, ac o ganlyniad byddai hithau’n llefain hefyd!
Roedd teulu’n hynod bwysig i Florence, y teulu agos a’r teulu estynedig. Pan oedd Dylan yn fach, mae Andrew Lycett yn dogfennu y byddai Florence yn mynd ag e’ i ymweld â’i chwaer Dosie ar y penwythnosau a byddai Dylan yn mynd i’r ysgol Sul a gynhaliwyd gan ei gŵr, y Parchedig David Rees. Cedwid yr ystafell fyw ar gyfer yr achlysuron ‘gorau’, ac yno y byddai’n croesawu’i hymwelwyr teuluol o Sir Gâr. Byddai’n aml yn siarad Cymraeg gyda’i pherthnasau ac roedd DJ yn addysgu dosbarthiadau Cymraeg, ond fel roedd yn gyffredin ar y pryd, magwyd Dylan a Nancy i siarad Saesneg. Yn ôl Mrs Dawkins, un o ffrindiau Florence, byddai DJ yn gwawdio Florence am ei ‘Chymraeg Abertawe’, felly anaml iawn y byddai’n ei siarad o’i flaen, er ymddengys ei bod yn derbyn ei gerydd gyda hiwmor da. Ysgrifennodd Paul Ferris fod Mrs Dawkins yn disgrifio Florence fel ‘the hen-pecked wife of an intellectual’.
Credir i Dylan ddangos symptomau o asthma pan oedd yn grwt ifanc, rhywbeth y mae’n rhaid ei fod wedi gwaethygu pryderon Florence am dwbercwlosis. Yn Dylan Thomas: The Biography, dyfynna Paul Ferris sgwrs y cafodd Florence ag Ethel Ross ym 1954: ‘As a child he would collapse while he played with his toys’. Pan oedd yn grwt ifanc yn Ysgol Un Athrawes Mrs Hole, roedd e’n tueddu i gario clecs i’w fam am y plant eraill a byddai Florence yn ymddangos yn yr ysgol i gwyno. Roedd Evelyn Jones, un o gyfoedion Dylan, yn cofio bod Florence yn addoli Dylan, ac roedd pob un ohonynt yn ei hofni’n fawr. Pan oedd Dylan yn dost yn y gwely, byddai ei fam yn darllen iddo, ond yn y blynyddoedd diweddarach byddai’n dweud ei fod wedi addysgu ei hun i ddarllen yn bennaf o gomics fel Tiger Tim a Rainbow. Yn The Life of Dylan Thomas, mae Constantine Fitzgibbon yn dogfennu y byddai DJ yn darllen Shakespeare i’r Dylan ifanc a byddai Florence yn ebychu: ‘Oh, Daddy, don’t read Shakespeare to a child only four years of age.’
Roedd gan ddau o blant Florence anhwylderau a fyddai’n eu cadw o’r ysgol am gyfnodau hir, ond mae’n ddadleuol p’un a oedd y cyfnodau hyn o wellhad yn angenrheidiol neu a oeddent yn rhannol oherwydd bod Florence fel iâr â deugyw. Dywedir er enghraifft bod Nancy wedi colli dau dymor o ysgol rhwng 1922 a 1923 pan ddatblygodd anhwylder gwaed a olygai bod posibilrwydd y gallai unrhyw gwt fynd yn septig. Yn Dylan Remembered Volume One mae ffrind Nancy pan oedd yn blentyn, Eileen Llewellyn Jones, yn cofio: ‘if they had a cold, either of them, or bronchitis, or something like that, they would perhaps miss a whole term’s schooling’.
Roedd Dylan hefyd yn dueddol i gael damweiniau; torrodd ei drwyn pan oedd yn ifanc iawn ar ôl cwympo drwy’r ffyn canllaw mewn tŷ cymydog, a chwympodd oddi ar wal a tharo’i hun yn anymwybodol ar un achlysur. Yn fuan ar ôl ennill y ras filltir yn ysgol Ramadeg Abertawe – gorchest gorfforol yr oedd yn hynod falch ohoni – gwrthdarodd â fan pan oedd yn reidio’i feic a threuliodd dair wythnos yn yr ysbyty gyda thoriadau lluosog yn ei arddwrn a’i fraich. Ar ôl hynny, yn ôl Lycett, roedd gartref yn gwella. Aeth Florence i’r drafferth o osod bwrdd yn yr ardd iddo fel y gallai ymarfer ysgrifennu gyda’i law chwith. Fodd bynnag, pan edrychodd allan o’r ffenestr yr ystafell wely, gwelodd ei fod yn smygu ac nid yn ysgrifennu! Wnaeth hi ddim ei geryddu, ond dywedodd wrth DJ am y digwyddiad yn lle; mae’n ymddangos ei bod yn dibynnu ar DJ i fod yn ddisgyblwr. Mae Paul Ferris yn dogfennu, gyda holl ddamweiniau ac anhwylderau Dylan, iddi ddweud wrth ei chymdogion ei bod yn ‘ofni am ei fywyd’. Er na allai ei ddiogelu rhag damweiniau, roedd hi’n benderfynol o gadw salwch draw; mae pob bywgraffiad am Dylan yn adrodd amdani’n lapio dillad cynnes amdano drwy’r flwyddyn, yn ei gadw yn y gwely pan oedd yr awgrym lleiaf o annwyd arno ac yn ei fwydo â bwydydd cysur fel bara a llaeth.
Bydd Rhan Tri yn archwilio sut roedd Florrie yn ymdopi â’i mab pan oedd yn ei arddegau. Cadwch lygad amdano’n fuan!
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English