Florence Thomas: Rhan 8
Yn ei blog diweddaraf am Florence Thomas, mae Katie yn bwrw ‘mlaen â’r hanes yn Nhalacharn.
‘She was always cheerful wherever she was; you just couldn’t keep her down’- Caitlin yn cyfeirio at Florence, yn Caitlin: Life with Dylan Thomas
Roedd Florence a DJ yn byw yn y Pelican yn Nhalacharn. Dogfennwyd yn Dylan Remembered Volume One fod eu merch, Nancy, a’i gŵr Gordon Summersby yn helpu i dalu’r rhent, a bod ganddynt ddau letywr, Billy Guts a Dai Thomas., Yn ôl Caitlin, yn Caitlin: Life with Dylan Thomas, roedd Florence wedi ymgartrefu’n dda yn the Pelican. Byddai hi’n ddigon hapus yn gwneud ei gwaith tŷ wrth i DJ gwyno am ‘ddiwedd gwareiddiad’. Sylwodd Caitlin, pan y byddai ffrindiau Florence o Gaerfyrddin yn galw heibio am baned o de a dwy awr o falais, y byddai DJ yn cuddio’i hun nes iddynt adael.
Gwnaeth Sally Brace eu helpu yn y Pelican am bum mlynedd. Yn Dylan Remembered Volume Two, mae’n disgrifio sut y byddai’n mynd i’r tŷ am 9 o’r gloch, yn gadael am 2pm ac yna’n dychwelyd am 8pm i roi swper iddynt. Bob nos byddai’n rhoi wyau a llaeth, gyda brandi, i DJ, yr oedd ei iechyd yn gwaethygu’n gyflym. Dywedodd am Florence, ‘she was a perfect lady, very kind in every way.’ Er bod DJ prin yn gadael y tŷ, byddai Caitlin a Dylan yn mynd â Florence am droeon mewn cadair olwyn. Sylwodd Nellie Jenkins, Nyrs Ardal Talacharn ar y pryd, ar ba mor garedig oedd Caitlin wrth Florence yn ystod y cyfnod hwn, ‘(it was) the one redeeming feature I had for her’.
Ymwelodd Aeronwy â’r Pelican yn aml, gan fynd yno i ddianc rhag tymer anrhagweladwy Caitlin. Byddai’n aros dros nos weithiau, ac yn cysgu yn yr ystafell gyda Florence. Yn ei llyfr, My Father’s Places, mae’n rhoi mewnwelediad arbennig i gyfarfodydd Florence â’i ffrindiau a’i pherthnasau. Byddent yn siarad Cymraeg yn bennaf, ond yn newid i’r Saesneg er budd Aeronwy. Byddent yn trafod pynciau amrywiol ac, ar un achlysur, cofiodd Aeronwy eu bod yn siarad am angladdau. Dywedodd Florence y byddai’n talu 6d yr wythnos i mewn i lyfr angladd. Pan ofynnwyd iddi gan ei ffrindiau pryderus a oedd y swm hwn yn ddigon, ei hymateb oedd, ‘Well, I’ve got the hams ready’, a dangosodd i’w ffrindiau’r holl hamiau a oedd yn hongian yn y llawr isaf – rhywbeth a gafodd sêl bendith ei ffrindiau. Byddai te prynhawn hael iawn yn cael ei gynnig, a byddai’r holl fenywod yn tynnu eu dannedd gosod – ar yr amod nad oedd unrhyw ddynion o gwmpas – ac yn parhau â’u sgwrs yn hapus. Pan ddaeth Dylan i’r cyfarfodydd hyn, byddant yn rhoi eu dannedd yn ôl i mewn ac yn cynnig yr ail gadair orau iddo (y gadair orau oedd y gadair Queen Anne, sef cadair DJ). Dan arweiniad Florence, dysgodd Aeronwy i dynnu llun defaid, sut i wneud pwdin reis a pha eiriau nad oedd hawl iddi eu defnyddio. Dywedodd Aeronwy nad oedd Florence byth yn beirniadu ei mam o’i blaen, hyd yn oed os oedd awgrym ei bod yn anghytuno â gweithredoedd Caitlin.
Er i Florence siarad â Dylan am ei arferion yfed, roedd ei rhybuddion yn ysgafn iawn. Mae Andrew Lycett yn cofio un ohonynt yn Dylan Thomas, A New Life, ‘Now don’t think I’m interfering, dear, I just happened to be looking out of the window as you fell down Brown’s steps.’ Doedd hi ddim yn trafod ei yfed ag unrhyw un arall. Yn ddiddorol, er iddo gwyno am boenau yn ei frest, doedd Florence ddim yn cwyno am arferion smygu Dylan. Yn ôl Aeronwy, byddai’n annog dynion i smygu, ac roedd hi bob amser yn barod i gynnig blwch llwch – roedd hi’n dweud ei fod yn ‘dangos gwroldeb’.
Ym 1950, aeth Dylan ar ei daith gyntaf i America. Ar y daith hon, a’i deithiau dilynol, dywedodd Caitlin fod ei lythyrau at ei rieni bob amser yn gwneud iddo ymddangosfyn fentrus ac yn weithgar. Dywedodd fod ei rieni’n credu pob gair, ond roedd Caitlin yn eu darllen â phinsiad o halen. Yn ôl Paul Ferris yn Dylan Thomas: The Biography, honnir bod Dylan wedi dweud wrth Florence, ‘Wouldn’t it be nice, our Mummy, if I didn’t have a home to keep, so that I could keep this money and go and do my love poems!’ Roedd Florence dan yr argraff fod Dylan yn dychwelyd i bentwr o filiau bob tro yr oedd yn dychwelyd o America. Safbwynt Caitlin oedd bod Dylan yn mynd i ffwrdd am gyfnodau hir ar y tro ac yn dychwelyd â braidd dim arian.
Bu farw DJ ar 16 Rhagfyr 1952. Yn ôl Lycett, y diwrnod cyn ei farwolaeth aeth e’ i’r gegin ac roedd yn ddryslyd iawn, gan meddwl mai Florence – a oedd yn paratoi cawl winwns – oedd ei fam, cyn dychwelyd i’r gwely a dweud ‘it’s full circle now’. Roedd Caitlin yn cofio nad oedd Dylan yn bresennol pan fu farw DJ, ond roedd Florence wrth ei ochr. Roedd Caitlin yn cofio ei bod hi a Dylan wedi ymweld â Florence yn hwyrach y diwrnod hwnnw, a bod DJ yn gorwedd ar y bwrdd yn yr ystafell flaen. Dywedodd Aeronwy fod Florence wedi ymdopi’n dda â marwolaeth DJ, a’i bod wedi ymddwyn yn yr un ffordd ag yr oedd bob amser wedi’i wneud. Aeth arian DJ, cyfanswm o £165, i Florence, ac addawodd Gordon Summersby y byddai’n parhau i’w helpu i dalu ei rhent.
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English