Florence Thomas | Rhan 4
‘His mother was still removing the tops off his boiled eggs when he was seventeen.’
Paul Ferris, Dylan Thomas: The Biography
Yn rhan 4 o’i chyfres o flogiau am Florence Thomas, mae Katie yn edrych ar y ffyrdd y cefnogodd Florence Dylan ar ôl iddo adael yr ysgol.
Ar ddechrau’r 1930au, ar ôl gadael yr ysgol, roedd Dylan yn byw gartref ac yn cael ei gynnal gan ei rieni. Mae’n ymddangos eu bod wedi adnabod ei ddawn am ysgrifennu’n gynnar. Pan oedd Randolph Fulleylove yn adnabod Dylan, pan oedd yn dair ar ddeg oed, ei atgof ohono – a gasglwyd yn Dylan Remembered Volume One – oedd hyn – ‘they had a form of dinner wagon, with two cupboards absolutely packed with his writing.’ Mewn llythyr a ysgrifennodd Nancy at Haydn Taylor ar ddechrau 1933, cwynodd am ddigwyddiad lle cafodd ei hatal rhag ysgrifennu am fod angen yr inc ar Dylan.
Yn ogystal â digwyddiadau yn llythyrau Nancy, a ddogfennwyd yn Dylan Thomas: The Biography Paul Ferris, mae awgrymiadau eraill bod Dylan yn anodd byw gydag ef. Er nad yw’r dyddiad wedi’i nodi, roedd sefyllfa lle cafodd Dylan ei fwrw allan o’i gartref ac aeth i fyw mewn byngalo yn Limeslade gyda Hedley Auckland am yr haf. Yn Dylan Remembered Volume One nododd Auckland ‘Sunday morning breakfast would be pineapple chunks and burgundy.’ Pe byddent ‘o blaid’ byddent yn treulio dyddiau’r wythnos yn Abertawe a dim ond y penwythnosau yn y byngalo. Mae Auckland yn dyfalu ei bod yn debyg mai ffrae gyda’i dad yn hytrach na Florence a arweiniodd at hyn: ‘at any opportunity, Dylan would go home to mum and she would welcome him with open arms.’ Ym 1933, pan oedd DJ yn sâl gyda chanser, mae Andrew Lycett, yn Dylan Thomas: A New Life yn dogfennu yr aeth Dylan yn gyndyn i Flaencwm i aros gyda’i ewythr a’i fodryb i roi saib i’w fam.
Yr holl amser yr oedd Dylan gartref, mae’n ymddangos bod Florence yn parhau i’w faldodi. Mewn llythyrau at Pamela Hansford Johnson mae’n cyfeirio at frecwast yn cael ei weini iddo ar ochr ei wely yn y bore, er enghraifft. Ym 1933, ar ôl iddo adael ei swydd yn y papur newydd, dechreuodd Dylan dreulio llawer o amser yn nhŷ ei ffrind Bert Trick. Roedd ei fam yn gymharol fodlon ar y cyfeillgarwch. Dywedodd Florence wrth Nell, gwraig Trick, ei bod yn ‘hapus yn ei meddwl’ pan oedd Dylan yno gan na fyddai’n gallu cael ei hun mewn unrhyw drwbl. Fodd bynnag, yn ôl Lycett, gofynnodd hefyd i Nell am ei ryseitiau ar gyfer blancmanges a jelïau – hoff bethau Dylan – efallai yn y gobaith y gallai ei demtio i dreulio mwy o amser gartref yn lle.
Ym mis Medi 1934 cafodd y Thomasiaid hŷn gyfle i gwrdd â chariad Dylan ar y pryd, Pamela Hansford Johnson. Arhosodd hithau yn y Mermaid yn y Mwmbwls gyda’i mam a byddai’r pâr yn mynd i Cwmdonkin Drive am swper. Dywed Lycett fod Pamela’n meddwl bod DJ yn ddymunol ond bod clebran diderfyn Florence yn ddiflas.
Roedd Dylan yn teithio ac yn aros yn amlach yn Llundain. Ar ôl sawl ymweliad, yn aml yn aros gyda’i chwaer neu ei ffrindiau, penderfynodd Dylan symud yno i fyw gyda’i ffrind o Abertawe, yr artist Fred Janes. Ym mis Tachwedd 1934 – fis cyn cyhoeddi ei gasgliad cyntaf, 18 Poems, symudodd i Lundain, ond nid oedd hyn yn rhywbeth yr oedd ei rieni’n gwbl hapus yn ei gylch. Er, yn ôl Ferris, roedd Florence yn ymddiried yn Fred Janes, roedd hi’n dal i anfon punt yr wythnos i Dylan i’w gynnal. Derbyniodd Haydn Taylor lythyr oddi wrthynt hefyd yn gofyn iddo ddod o hyd i Dylan am fod Florence yn ofni nad oedd gan ei mab ddigon o sanau. Mae’n rhaid eu bod yn poeni am ei les; roedd wedi dychwelwyd i aros gyda nhw dros y Nadolig, ond dim ond pythefnos ar ôl iddo ddychwelyd i Lundain, penderfynon nhw deithio yno i ymweld ag ef. Ni fyddai’r ymweliad wedi tawelu eu meddyliau. Eisteddodd DJ ar y gwely gwersyll a chwympodd hwnnw’n syth. Mae Lycett yn dogfennu bod Florence yn cofio’r canlynol ‘If there was one empty, dirty milk bottle, there were twenty’. Pan oedd yn Llundain, aeth DJ a Florence i ymweld â’r teulu Hansford Johnson hefyd. Yno, ar ddamwain, fe ddifethon nhw’r berthynas a oedd eisoes yn methu drwy sôn nad oedd Dylan yn un ar hugain eto – roedd Pamela dan yr argraff ei bod hi ac ef yr un oed.
Er, yn ôl Ferris, dywedodd Florence, ‘I think the boys had a very happy time’. Nid oedd yn hir cyn i Dylan symud yn ôl adref, ar ôl yr hyn a alwodd Florence yn ‘waeledd. Teithiodd i Lundain ar ôl hynny, ond Cwmdonkin Drive oedd ei brif gartref am y flwyddyn neu ddwy nesaf. Yno, pe bai Dylan yn aros ar ddihun, yn ysgrifennu adolygiad llyfr er enghraifft, byddai Florence yn aros ar ddihun yn hwyr gydag ef, gan sicrhau bod ganddo ddigon o goffi. Yn Dylan Remembered Volume Two, maeFred Janes yn cofio bod Florence bob amser yn lletygar, ac yn gweini byrddau enfawr o frechdanau iddyn nhw a’u croesawu bob amser. Fodd bynnag, ym 1936 roedd y ddynameg ar fin newid unwaith eto, wrth i’r Thomasiaid benderfynu symud tŷ, a chyfarfu Dylan â menyw ifanc o’r enw Caitlin Macnamara…
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English