Florence Thomas | Rhan 10
‘to think in one year I lost my whole family, it’s been a very severe blow, one I’m afraid I shall never really get over.’ – Llythyr Florence at Ethel Ross, mis Mawrth 1954, a gyhoeddwyd yn The Three Lives of Dylan Thomas gan Hilly Janes.
Yn ei llyfr, My Father’s Places, mae Aeronwy yn nodi mai bwriad Caitlin ar ôl angladd Dylan oedd mynd â Florence a Colm i Galiffornia i aros gyda ffrind iddi hi a Dylan, Ruth Witt-Diamant. Roedd hwn yn un o nifer o bosibiliadau a ystyriodd Caitlin, cyn symud i’r Eidal flwyddyn neu ddwy ar ôl marwolaeth Dylan.
Mae gwahaniaeth yn yr hanesion o ran Florence a’r modd y gwnaeth hi ymdrin â marwolaeth Dylan. I Caitlin, yn Caitlin: Life with Dylan Thomas, disgrifiwyd Caitlin drwy ddweud, ‘took it all in her stride’, fodd bynnag, yn Hilly Janes’ The Three Lives of Dylan Thomas gwelwn fersiwn arall o ddigwyddiadau. Ym mis Mawrth 1954, ysgrifennodd Ethel Ross – a oedd yn byw gyda’i chwaer, Mary, (gwraig Fred Janes) – at Florence yn ei gwahodd i fynd i deyrnged codi arian i Dylan yn Ysgol Ramadeg Abertawe. Ymddiheurodd Florence, gan egluro ei bod wedi bod yn y gwely yn ystod y mis diwethaf, yn dioddef o ‘nervous exhaustion and a heart condition’. Wrth i’w hiechyd barhau i ddirywio, aeth i aros gyda ffrindiau yng Nghaerfyrddin, ac oddi yno cysylltodd Fred Janes â hi ym mis Hydref i’w gwahodd i aros gyda nhw.
Galwodd Florence heibio nifer o weithiau â theulu Janes yn y blynyddoedd wedi hynny. Roedd Aeronwy a Llewelyn yn yr ysgol breswyl yn Lloegr tra roedd Colm – a oedd yn 4 oed pan fu farw ei dad – gyda Caitlin yn yr Eidal. Roedd Florence yn gweld eisiau ei hwyrion, ac roedd yn mwynhau cwmni plant Janes yn arbennig. Byddai’n adrodd straeon am Dylan a’i iechyd ac yn ôl ei hanes, roedd yn ‘ddi-fai’ mewn unrhyw ddrygioni. Mae Hilly Janes yn dyfynnu sgwrs rhwng Florence ac Ethel Ross lle bu’n hel atgofion am hoffter Dylan am losin a chnau mwnci, yr oedd bob amser yn eu cario yn ei bocedi. Dywedodd ei bod yn dod o hyd i gregyn cnau ar ei chadeiriau am fisoedd ar ôl iddo farw. Byddai hi hefyd yn dod o hyd i losin i lawr ochr y cadeiriau – ‘the ones he didn’t like’.
Erbyn 1955 roedd Caitlin wedi symud dramor ac roedd Florence wedi symud i mewn i’r Tŷ Cychod ac yn cael help gan Dolly, a arferai weithio i Caitlin a Dylan. Roedd hi wedi symud i mewn i’r Tŷ Cychod, yn ôl Aeronwy, oherwydd ei fod yn ‘made her feel close to her boy’. Dywedodd wrth Aeronwy nad oedd hi byth yn unig ‘as so many people loved Dylan and would visit’ i siarad amdano. Mewn llythyr, sydd bellach yn ein Casgliad Dylan Thomas, a ysgrifennwyd at Daniel Jones, ysgrifennodd, ‘I am glad that you do sometimes think of me. It’s nice to feel that Dylan’s friends still think of me and come to see me occasionally.’ Roedd ei hiechyd yn dirywio fodd bynnag a phan ymwelodd Rollie McKenna eto bedair blynedd ar ôl i Dylan farw, roedd hi’n aros ym Mhort Talbot ac yn derbyn gofal gan ei ffrindiau Hetty a Ken Owen.
Yn ôl Andrew Lycett yn Dylan Thomas A New Life, awgrymodd fod Florence wedi anwybyddu ymddygiad Caitlin ar ôl marwolaeth Dylan yn ôl pob golwg, fel y gallai barhau i gadw mewn cysylltiad â’i hwyrion. Yn ei gyfweliad â hi ym 1958, disgrifiodd Colin Edwards ei hagwedd tuag at Caitlin fel un ‘cyfeillgar’ a daeth i’r casgliad nad oedd yn rhannu’r un ‘teimladau chwerw’ yr oedd gan rai o ffrindiau Dylan. Gwelwn arwyddion o Florence yn cyfleu sut roedd hi eisiau i bethau gael eu gweld gan y byd yn hytrach na mynegi ei theimladau personol, ac nid dyma’r tro cyntaf i ni weld yr arwyddion hynny. Yn answyddogol, mae’n ymddangos bod barn Florence am ei merch-yng-nghyfraith yn llawer llai canmoliaethus. I’w ffrindiau agos, Fred a Mary Janes, ysgrifennodd: ‘What a life she lives. What a shame. It’s the children I feel for and I feel mad. She is still Dylan’s widow, bless him, he is far better off dead than the husband of such a woman if one can call her that.’
Er y sefydlwyd ymddiriedolaeth ar ôl marwolaeth Dylan i reoli’r elw o’i waith, nid oedd Florence yn fuddiolwr iddi wrth i 50% fynd i Caitlin gyda’r hanner arall yn cael ei rannu rhwng y tri phlentyn. Yn ôl Colin Edwards, rhoddwyd set deledu gan y BBC, a oedd yn ddefnyddiol iawn iddi gyda’r hwyr pan oedd ar ei phen ei hun, yn enwedig gan fod ei hiechyd ei hun yn dirywio’n gyflym. Erbyn i Edwards ei chyfweld ym mis Gorffennaf 1958 dywedwyd ei bod yn dioddef ‘three or four heart attacks a day’. Fodd bynnag, roedd hi’n dal i dderbyn ac ateb llythyrau am Dylan, er ambell waith, ychydig lythyrau’r wythnos yn unig a lwyddodd i’w hysgrifennu.
Bu farw Florence yn y Tŷ Cychod ar 16 Awst, 1958. Yn Dylan Remembered Volume One mae’n nodi bod ei heiddo personol a’i heitemau o gelfi wedi’u dosbarthu rhwng naw o bobl a enwyd yn ei hewyllys. Ymhlith y derbynyddion roedd ei hwyrion a Caitlin. I Caitlin, ymysg pethau eraill, gadawodd ei chlogyn ffwr, ei hwfer a’i hysgubwr carped. Dosbarthwyd ei harian i fuddiolwyr a enwir, a gadawyd y gweddill i Aeronwy. Mynnodd, pe byddai ei brawd Bob yn marw, y byddai ei dŷ yn Delhi Street yn cael ei werthu ac y byddai gŵr gweddw Nancy, Gordon Summersby, yn derbyn yr elw o’r gwerthiant, gan ei fod wedi bod yn talu ei rhent.
Mae ein synnwyr o Fflorence fel unigolyn yn ogystal â’i dylanwad enfawr ar ei mab, yn dod i’r amlwg drwy’r amser. Gorffennwn gyda’r ddolen hon sy’n cynnwys Ethel Ross yn hel atgofion amdani: https://twitter.com/NSSAW/status/1369997734674128897
Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English