Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd – Rhan 2

Elaine Griffiths: Warden Cyrch Awyr Ieuengaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd – Rhan 2
Ffotograffau trwy garedigrwydd merch Elaine, Dr Leanna Broom, a’i mab, Barrie Kidwell.

Daeth ein blog olaf i ben gydag Elaine wrth ddrysau Sefydliad Brenhinol De Cymru. Dyma’r hyn a ddigwyddodd nesaf.

Llwyddodd Elaine, gydag ychydig bach o olau tortsh yn unig i’w chynorthwyo, i ymbalfalu i’w desg yn y llyfrgell fenthyca ar y llawr uchaf a gwagio’r arian parod i’w helmed i’w gadw’n ddiogel, cyn mynd i lawr y grisiau i’r llyfrgell ddarllen ar y llawr gwaelod isaf. Mae’n disgrifio ei phrofiad yn ei geiriau ei hun:

‘Caniatawyd i fi ddefnyddio tortsh fach iawn yn unig a ddangosodd ffordd i mi gerdded, tua dwy droedfedd o’m blaen. Doedd gen i ddim hawl i fflachio’r tortsh o gwmpas, oherwydd y paneli gwydr yn nho’r llyfrgell waelod. Roedd bwrdd hir, llydan, enfawr ar hyd cyfan y llyfrgell waelod hon. Doedd dim gwydr ar y darn cul o lawr y gallwn ei weld wrth ochr fy nhraed, ond, wrth gerdded a baglu o gwmpas y bwrdd enfawr, a ddefnyddiwyd fel bwrdd darllen gan aelodau’r Sefydliad Brenhinol, es i [wedyn] yn gyflym o gwmpas gweddill yr amgueddfa, ar y llawr gwaelod…. ‘

Doedd dim difrod amlwg, ar wahân i rywfaint bach o wydr. Ar ôl sicrhau nad oedd unrhyw dresmaswyr yno, aeth ati i gloi’r drysau ffrynt (gan ddiogelu Lizzie) ac aeth adref. Cafodd ei deffro gan sŵn curo ar y drws ffrynt. Daeth aelod o’r garfan difa bomiau i’w rhybuddio i gadw draw oddi wrth y gwaith, gan eu bod wedi dod o hyd i leoliad y chweched bom (nad oedd wedi ffrwydro): roedd wedi plymio trwy do gwydr y llyfrgell ddarllen ac roedd yn sownd yn y llawr tua throedfedd o’r bwrdd, gyda’i adenydd metel ar ei fyny yn yr awyr.

Nid oedd y warden ifanc dewr wedi sylwi ar unrhyw beth anarferol wrth lywio o gwmpas y bwrdd darllen enfawr, gan fod yr holl ddarnau o wydr wedi disgyn arno. Gan fyfyrio ar ei dihangfa lwcus (ynghyd â’r amgueddfa), cofiodd Elaine: ‘Roeddwn i wedi cerdded fodfeddi oddi wrtho ac oherwydd bod fy mhwysau ychydig dan saith stôn, wnes i ddim aflonyddu arno mewn unrhyw ffordd.’ Cafodd y bom ei ddiffiwsio’n ddiweddarach a’i gludo i’r ardd fach yng nghefn yr adeilad i’w ddinistrio.

Roedd y drydedd noson, a’r noson olaf o fomio dwys, yn ‘noson ofnadwy arall’ pan ddinistriwyd siop adrannol flaenllaw Abertawe, Ben Evans, ac ymddangosai fod y dref gyfan ar dân. Er iddi yfed te gwan mewn ymgais ‘i fwrw’i blinder’ a oedd yn bygwth ei llethu, roedd hi a’r wardeiniaid eraill yn gwybod bod yn rhaid iddynt wneud eu ‘gorau glas gan fod cynifer o bobl yn dibynnu arnom ni’.

Y noson honno, defnyddiodd Elaine, a oedd yn 17 oed, yr holl hyfforddiant a gafodd fel warden, ei dawn i berswadio a’i phenderfyniad pur i symud grŵp o bobl oedrannus ofnus o gysgod cyrch awyr yn Wind Street a oedd mewn perygl o gael ei lyncu mewn storm o dân a oedd yn datblygu, a achoswyd gan y cymysgedd o ffrwydradau a oedd yn arllwys i lawr. Arweiniodd hi nhw drwy olygfa llawn dryswch ac anhrefn, gan ddwyn perswâd arnynt a hyd yn oed eu gwthio dros bont afon Tawe i ddiogelwch yn St Thomas ar ochr ddwyreiniol y dref. ‘Gallwn weld ein bod i gyd yn mynd i farw yno pe na baen nhw’n mynd dros y bont honno,’ cofiodd Elaine.

Wrth droi’n ôl i edrych ar y dref a oedd bellach yn wenfflam, â’r afon yn adlewyrchu’r fflamau enfawr, gwelodd dŵr tal Eglwys y Santes Fair (lle bedyddiwyd cenedlaethau o’i theulu), â fflamau’n saethu allan o’r pen. Ymysg blinder llethol a galar, clywodd Elaine y clychau’n canu wrth iddynt gwympo i lawr. Meddai, ‘Roeddwn i’n gwybod na fyddwn i byth, byth, yn anghofio’r olygfa cyhyd ag y byddwn i byw.’

Wrth iddi beryglu ei bywyd ar batrolau cyrchoedd awyr, roedd Dylan Thomas a’i wraig, Caitlin, yn aros gyda’i rieni yn eu byngalo cymedrol yn ardal wledig Llandeilo Ferwallt, ychydig filltiroedd ar gyrion Abertawe, yn dilyn ymddeoliad ei dad DJ o’r Ysgol Ramadeg oherwydd afiechyd ac ar ôl iddynt symud o gartref maestrefol plentyndod Dylan yn Cwmdonkin Drive. Roedd hyn

cyn i Dylan ddechrau o ddifri ar ei ‘waith rhyfel’ ei hun, yn ysgrifennu rhaglenni dogfen i godi calonnau ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth, a’r dyletswyddau a ymgymerodd fel warden cyrch awyr yn Llundain. Er nad yw’r ‘Collected Letters of Dylan Thomas’ yn sôn ar adeg honno am y ddrama a oedd yn datblygu yn y dref, mae drama radio Dylan, ‘Return Journey’, a ddarlledwyd ym mis Mehefin 1947, yn cofio’r amser ofnadwy hwnnw ac yn pwysleisio’r bylchau amlwg ac emosiynol a grëwyd gan ‘blitzed flat graves’ y ‘remembered invisible shops’.

Yn ddiddorol, gwelodd Dylan ac Elaine harddwch ymysg canlyniadau’r dyddiau tywyll hynny. Roedd eira wedi troi’r strydoedd llwyd brwnt yn ‘Lapdir bach’ wrth i Dylan drafod y dref gan chwilio am fersiwn iau ohono ef ei hun, a lawr ar y blaendraeth rhewedig mae’n disgrifio’r môr fel rhywbeth sydd wedi mabwysiadu ansawdd crisialog.

Hefyd, mae Elaine yn rhoi enghreifftiau i ni o ddelweddau syfrdanol adeg y rhyfel: ar un achlysur roedd hi’n sefyll ar Wind Street pan oleuwyd un o awyrennau’r gelyn gan y chwiloleuadau ‘ac roedd hi’n ymddangos i fi ei bod fel broets arian yn hongian yn yr awyr!’; ar ben hynny, ‘Pan ffrwydrodd mwyngloddiau tir ar barasiwtiau, chwalwyd bob darn o wydr hefyd. Roedd gwydr ym mhobman, ac roedd y palmentydd a’r ffyrdd yn disgleirio gyda’r holl adlewyrchiadau o gafwyd gan bob darn. Roedd yn edrych fel rhew ac roedd yn brydferth iawn.’ 

Gan alarnadu colled ar ôl adeiladau Fictoraidd a Edwardaidd cynnar cain y dref, ‘o swyn a harddwch’, ac mewn adlais deimladwy o ddisgrifiad Dylan o Abertawe fel ‘ugly, lovely town’ yn ‘Reminiscences of Childhood’, credai Elaine ei bod yn eironig bod melin flawd Weavers (adeilad mawr, concrit, ‘a edrychai’n ofnadwy’, a oedd mewn lle blaenllaw ar Parêd y Cei, a ddymchwelwyd ac a ddisodlwyd yn y pen draw gan archfarchnad Sainsbury’s), wedi goroesi. Fodd bynnag, roedd yn ddiolchgar bod dau adeilad trawiadol a chain, a oedd yn agos iawn at ei gilydd, wedi goroesi’r rhyfel yn ddiogel: yn gyntaf Y Sefydliad Brenhinol (ei ‘hamgueddfa annwyl’) ac yn ail, yr hen Neuadd y Dref (hyd at 1934) y tu ôl i Parêd y Cei ar Somerset Place, a ailenwyd yn Ganolfan Dylan Thomas yn y 1990au ac sydd bellach yn Ardal Forol y ddinas sydd wedi’i hadfywio.

Canmolwyd personél y Sefydliad Amddiffyn Sifil a phobl Abertawe am wrthsefyll y profiad caled o dair noson o ymosodiadau’r gelyn gyda dewrder a phenderfyniad diwyro. Arhosodd morâl yn uchel, er gwaethaf y dioddefaint, y golled a’r amddifadrwydd dwys a brofwyd gan gynifer yn y gymuned.

Ar ôl ymchwilio i stori Elaine, mae’n gwneud i berson deimlo’n wylaidd wrth ddysgu am ddewrder anhunanol merch fywiog 17 oed a wasanaethodd ei chymuned ac a brofodd gymaint a hithau’n ferch ifanc. Gyda’i gŵr a’i merch hŷn yn wardeiniaid cyrchoedd awyr, mae’r effaith emosiynol ar fam Elaine yn glir: mewn llythyr at ei chwaer yn America mae’n cyfaddef: ‘Mae Ted ac Elaine ar ddyletswydd gyda’r Gwasanaeth Amddiffyn Sifil bob nos bellach, a does neb yn cael llawer o gwsg. Pan fydd y nosweithiau ar ben, dwi mor ddiolchgar ac yn teimlo rhyddhad pan welaf y ddau ohonynt yn ddiogel. Mae’n ymddangos eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn ystod y cyrchoedd awyr yn yr awyr agored, ac mae’n rhaid i fi eistedd yn y lloches cyrch awyr, yn gobeithio ac yn gweddïo y byddant yn ddiogel. 

Daeth Elaine yn berchennog balch ar ddwy wobr am ei chyfraniadau adeg y rhyfel, yn bennaf y Medal Amddiffyn a ddyfarnwyd am ei rôl fel warden cyrch awyr, a roddwyd i’r holl bersonél Amddiffyn Sifil. Derbyniodd hefyd fathodyn Byddin Dir y Merched a Chorfflu Coed y Merched yn 2009 am ei gwaith diweddarach gyda’r Fyddin Dir ar fferm yn Sir Benfro.

Pwysleisiodd Elaine ddewrder a gwydnwch pobl wych Abertawe yn aml. Fe’i hadwaenwyd fel ysbryd y Blitz, ac fe’i gwelwyd ymhlith y werin bobl mewn trefi a dinasoedd eraill ym Mhrydain a ddioddefodd yr un ffawd. Yn anffodus, bu farw Elaine yn 2020, ond wrth i ni gofio’r Blitz Tair Noson, wyth deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae ethos Elaine, ynghyd â phwysigrwydd cydgyfrifoldeb, mesurau diogelwch amddiffynnol, a gwydnwch mewn argyfwng yn arbennig o berthnasol yn ein sefyllfa ansicr bresennol.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

Ffynonellau:

  • ‘Among some Swansea schoolboys: Dynefor secondary grammar school for boys 1939 – 1945’ gan Tudor Price
  • https://civildefenceassociation.uk/history/
  • Rebuilding Swansea 1941-1961 gan Dinah Evans, Cyhoeddiad Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
  • Rhifyn Darluniadol ‘Swansea at War’ yr Evening Post
  • ‘The Collected Letters of Dylan Thomas’
  • ‘The Swansea Blitz’ gan Elaine Kidwell (Griffiths gynt) Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe, 2001

This post is also available in: English