Ysgogiadau Ysgrifennu Creadigol Anifeiliaid Dylan
Roedd Dylan Thomas yn cynnwys pob math o anifeiliaid ac adar yn ei waith, gan gynnwys octopws, cigfrain, cadnoid, cathod a gwlithod! Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni wrth i chi ysgrifennu eich cerddi a’ch straeon wedi’u hysbrydoli gan anifeiliaid.
Dychmygwch eich bod yn dylluan yn hedfan ar draws y dirwedd. Beth ydych chi’n gweld oddi tannoch? Beth ydych chi’n chwilio amdano? Disgrifiwch eich hun yn gwibio i lawr i ddal eich ysglyfaeth!
Ysgrifennodd Dylan am y crehyrod ym moryd Talacharn. Dychmygwch eich bod yn grëyr, a disgrifiwch yr hyn rydych yn ei weld wrth i chi edrych tuag at y lan. Gallwch hyd yn oed gynnwys yn eich disgrifiad y bardd ar y lan sy’n ysgrifennu amdanoch chi!
Pe gallech chi fod yn unrhyw anifail o gwbl, beth fyddai’r anifail hynny a pham? Sut beth fyddai diwrnod arferol ym mywyd yr anifail? Beth allech chi ei glywed, ei weld, ei arogli, ei flasu a’i gyffwrdd? Sut ydych chi’n symud? Beth ydych chi’n ei fwyta? Ble ydych chi’n byw ac yn cysgu?
Beth fyddai’n digwydd pe bai chi’n tynnu hanner blaen un anifail a hanner gwaelod anifail arall ac yn cyfuno’r ddau i greu anifail newydd sbon? Pa anifeiliaid byddech chi’n eu dewis? Disgrifiwch nodweddion yr anifail newydd. Beth fyddai’n ei fwyta? Sut byddai’n symud? Sut mae’n cyfathrebu?
Cofiwch rannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni!
E-bostiwch dylanthomasliterature@abertawe.gov.uk neu rhannwch eich creadigaethau ar Twitter yn @CDTAbertawe a Facebook – facebook.com/DylanThomasCentre
This post is also available in: English