Dylan, Bosham a D-Day
Ym 1944, treuliodd Dylan Thomas a’i deulu ychydig fisoedd ym mhentref Bosham yng ngorllewin Sussex. Yn yr ail o’r blog dwy ran hwn, mae Linda Evans o Ganolfan Dylan Thomas, yn edrych ar ei amser yno yn ystod y paratoadau ar gyfer D-Day.
Tra roeddent yn Bosham, byddai’r teulu (gan gynnwys y ci bach pwdl newydd, Dombey) yn gallu mynd am dro o gwmpas y pentref pert gyda’i eglwys, ei siopau a’i dafarnau, gan gynnwys y Ship and the Anchor (yr Anchor Bleu bellach). Ond cawsant eu hunain trwy amryfusedd yng nghanol paratoadau enfawr Prydain ar gyfer D-Day a ddigwyddodd ar 6 Mehefin. Fel pawb arall yn y pentref, ni fyddent wedi gwybod y rheswm go iawn am yr anhrefn o’u cwmpas ar y pryd. Roedd yr ymgyrch Brydeinig dra chyfrinachol (a fu diolch byth yn llwyddiannus) a gynlluniwyd yn drylwyr i oresgyn arfordir Normandi i ailgipio Ffrainc, a oedd dan oresgyniad yr Almaenwyr, yn cynnwys lluoedd y Cynghreiriaid o Ganada ac America. Llifodd milwyr i’r ardal; roedd rhai ohonynt yn gwneud ac yn cydosod darnau o harbwrs Mulberry a gâi eu huno’n ddiweddarach i ddarparu harbwr arnofiol ar y môr i’w ddefnyddio yn ystod y goresgyniad. Roedd safleoedd adeiladau cychod glanio yn Bosham, ac ar y pryd, roedd y llwybr i iard gynhyrchu’r harbwr Mulberry yn mynd heibio i fwthyn Far End. Roedd yr holl weithgarwch hwn yn anochel yn arwain at sibrydion a dyfalu; yn ôl un o bapurau newydd Sussex, roedd pentrefwyr yn dweud mai dechrau pont goncrit i groesi’r sianel oedd y gwrthrychau arnofiol rhyfedd hyn! Dim ond pobl a oedd yn byw’n lleol gâi ddod i’r ardal ac ataliwyd y cychod pysgota niferus a oedd yn gweithio o gei Bosham rhag gweithio, i sicrhau y cedwid y sianel yn glir.
Gallwn ddeall pam yr oedd Dylan yn swnio mor ddryslyd wrth gofio’n hwyrach, â’i wynt yn ei ddwrn i raddau, mewn llythyr diweddarach i’w ffrind a’r bardd Vernon Watkins: ‘Roedd y misoedd yn Sussex yn ofnadwy….awyrennau’n crafu’r toeon, bomiau’n dod yn y nos, heddlu yn y dydd, roedd cythreuliaid â bidogau ar waelod fy ngardd, a doc arnofiol fel aren y tu fas i’r ffenestr, Canadiaid yn y perthi ac Americaniaid yn y gwallt; roedd yn ardal gwbl waharddedig a melltigedig.’
Yn anffodus i’r teulu, roedd yr unig fomiau a syrthiodd ar Bosham yn ystod y rhyfel wedi ffrwydro yn ystod eu harhosiad hwy – fe’u gollyngwyd gan y Luftwaffe yng nghanol mis Mai cyn i’r awyren hedfan dros y dŵr;glaniodd un mewn cae yn eithaf agos at y llinell rheilffordd, gan greu twll twfn, a difrodwyd tŷ yn wael gan y llall. Yn ychwanegol at hynny, roedd arhosiad y teulu’n cyd-fynd â chyfnod estynedig o dywydd gwlyb, ac ysgrifennodd Dylan at Tommy Earp gan ddweud iddo ‘syrthio i’r fath iselder ysbryd……gallwn ond nadu yn y gwely ac ni allwn ddeall straeon ditectif.’
Â’r gweithgarwch gwyllt ar waelod yr ardd eisoes wedi’i frawychu, roedd y bomio’n ormod iddo. Mae’n debygol yr oedd Dylan yn ofni rhagor o ddifrod i’r llinell reilffordd, gan ei adael yn sownd yn y pentref, ac yn methu cymudo. Gadawodd y teulu ar frys, gan hyd yn oed adael bwyd yn y sosbenni, a chael lloches ym mwthyn Donald Taylor yn Hedgerley Dean, Swydd Buckingham cyn symud yn y pen draw i Gei Newydd yng Ngheredigion.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English