Dylan a Shakespeare
Mae 23 Ebrill eleni’n nodi 404 o flynyddoedd ers marwolaeth William Shakespeare, a hefyd 456 o flynyddoedd ers ei eni. Cynhelir dathliadau ei ben-blwydd eleni ar-lein, gyda Share Your Shakespeare, digwyddiad byd-eang dan arweiniad yr RSC.
Cychwynnodd hoffter Dylan Thomas at waith Shakespeare ar oed ifanc, a pharhaodd hyn trwy gydol ei fywyd.
“Pan oedd yn ifanc iawn, arferais ddweud wrth ei dad: “O, Dad, paid â darllen Shakespeare i blentyn sydd ond yn bedair blwydd oed.” Ac arferai yntau ddweud: “Bydd yn ei ddeall. Bydd yr un peth yn union â phe bawn i’n darllen pethau cyffredin.” Felly fe’i magwyd ar Shakespeare.’
Dengys atgofion mam Dylan, Florence, o blentyndod ei mab, ddylanwad geiriau Shakespeare o’r dechrau, ac atgyfnerthir hyn gan straeon eraill amdano’n dyfynnu o Richard II pan oedd yn mynychu ysgol un athrawes Mrs Hole yng Mirador Crescent.
Cofir Dylan a’i dad am eu darlleniadau o Shakespeare yn Ysgol Ramadeg Abertawe. Meddai ffrind Dylan, Trevor Hughes, amdano, ‘Arferai adrodd Shakespeare i’r dosbarth, a byddai’n cerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd yr ystafell yn adrodd. Roeddech chi’n gallu gweld nad oedd e’ yno mewn gwirionedd – roedd e’ ar lwyfan yn rhywle. Ac fe roddodd gymaint o deimlad i’r peth, cymaint o fynegiant’.
Darlledu Shakespeare
Yn y 1940au, roedd gwaith darlledu Dylan yn cynnwys amrywiaeth o ddramâu Shakespeare. Ym mis Ionawr 1947, ysgrifennodd at ei rieni gan ddweud:
‘Y diwrnod canlynol, cymerodd Dyall a minnau ran yn Richard III ar Wasanaethau Tramor y BBC. Rwy’n gwneud tipyn o waith i Wasanaethau’r Dwyrain a Gwasanaethau Tramor y BBC erbyn hyn, yn sgriptio, yn actio ac yn gwneud darlleniadau. Maen nhw’n gwneud perfformiad cryno o un o ddramâu Shakespeare bob wythnos. Yr wythnos diwethaf, y ddrama oedd Titus Andronicus, drama doeddwn i erioed wedi’i darllen ac mae’n debyg na fyddaf byth yn ei darllen eto, ond roedd yn llawer o hwyl ei gwneud… Ac o ran y gyfres Shakespeare y soniais amdani, rwy’n trefnu’r rhaglen yn seiliedig ar The Merchant of Venice.
Roedd yr actor, John Laurie, sydd bellach yn adnabyddus am chwarae’r cymeriad, Private Frazer, yn Dad’s Army, yn enwog yn y 1940au am ei berfformiadau llwyfan o Shakespeare ac yn adnabod Dylan: ‘Roedd ganddo ddiddordeb yn y ffaith mod i wedi chwarae’r holl rannau mawr yn Shakespeare a’r math hynny o beth, ac mae’n amlwg, heb amheuaeth, y byddai wedi bod yn hoff o fod yn actor ei hun… Ein bardd-ddramodydd go iawn cyntaf ers Shakespeare.’
Perfformio Shakespeare
Cyfunwyd cariad Dylan at Shakespeare ynghyd â’i alluoedd actio yn ystod ei ail daith ddarlithoedd yng ngogledd America, pan berfformiodd ddarnau o King Lear yn yr Amgueddfa Celf Fodern ym mis Chwefror 1952, gan nodi’n hynod hunanfychanol: ‘a byddaf yn Frenin Llŷr godidog i yn fy siwt fach sgleiniog’. Mae grym ei berfformiad a’i edmygedd o waith Shakespeare i’w glywed yn glir yn recordiad y perfformiad a ryddhawyd gan Caedmon Records.
I gael rhagor o wybodaeth am Share Your Shakespeare, ewch i www.rsc.org.uk/share-your-shakespeare a chofiwch rannu’ch creadigaethau â ni!
This post is also available in: English