Dylan a Caitlin yn Penzance, Mousehole a Newlyn
Yn ei thrydydd blog am amser Dylan yng Nghernyw, mae Linda Evans yn disgrifio priodas a mis mêl Dylan a Caitlin yng ngeiriau’r rheini a oedd yn bresennol.
Ar ôl dwy ‘ymgais aflwyddiannus’ pan arbedodd y cwpl £3 i dalu’r ffi am y drwydded arbennig ac yna’i wario mewn tafarndai lleol, priodwyd Dylan Thomas a Caitlin Macnamara o’r diwedd ar ddydd Sul 11 Gorffennaf, 1937, ”yn dawel ac yn ddangosadwy’ yn Swyddfa Gofrestru Penzance (Phoenix House bellach, lle ceir plac glas coffaol). Doedd Caitlin ddim yn ymwybodol o anghymeradwyaeth tad Dylan o’r briodas, a’i ymdrechion i’w hatal.
Talwyd y ffi gan Wyn Henderson, (a roddodd lety i Dylan yn ei bwthyn yn Polgigga y flwyddyn flaenorol) fel y gallai’r briodas fynd yn ei blaen. Roedd hithau bellach yn berchen ar ac yn rheoli The Lobster Pot, gwesty bach ar lan y dŵr yn edrych dros harbwr Mousehole, a darparodd lety i’r cwpwl cyn ac ar ôl y briodas.
Roedd Jack Wallis, pysgotwr lleol a fyddai ambell waith yn mynd â Dylan (‘dyn go lew’) ac Wyn mas yn ei gwch, yn cofio bod Joe Marston, harbwr feistr Mousehole wedi mynd i’r briodas, a dyfynnwyd bod Caitlin wedi dweud bod Wyn Henderson hefyd yn bresennol, gan na fyddai hithau wedi caniatáu iddynt briodi heb ei bresenoldeb e’ ‘ond dwi ddim yn cofio’n glir os oedd hi yno’.
Gwisgodd y briodferch wisg gotwm glas hafaidd, syml (a’i gwnaed yn ôl pob sôn o’r llenni a oedd yn Oriental Cottage, Lamorna, lle bu’r cwpl yn aros o’r blaen); dewisodd y priodfab wisgo’i ddillad pob dydd – siaced brethyn cartref a throwsus melfaréd, a chrys patrwm sgwarog gwddf agored.
Disgrifiodd Caitlin sut y cyfnewidiodd hi a Dylan fodrwyau arian Cernyweg (a brynwyd gan Dylan yn ddirgel yn Penzance) yn ystod seremoni fer a gynhaliwyd o flaen cofrestrydd ‘wyneb galed, yr oedd ei ymarweddiad yn ôl pob tebyg oherwydd ei bod hi’n ddydd Sul a bod y cwpl yn ‘llawn diod’, ac yn adrodd eu llwon mewn niwl alcoholig ar ôl cael ‘cryn dipyn i’w yfed’ o flaen llaw.
Roedd Jack Wallis yn cofio’r parti yn The Lobster Pot a drefnwyd gan Wyn (roedd ganddi ‘galon mor fawr â’r byd’) ar gyfer y pâr ifanc: ‘Cafwyd parti go iawn drwy’r prynhawn a thrwy’r nos. Parti go iawn’. Ymunodd meibion Joe Marsden ac Wyn, Nigel ac Ian, yn y wledd briodas ac roedd Jack yn bresennol yn yr hwyr, a bu’r dathliadau’n destun clecs yn y pentref am gryn amser wedi hynny.
Treuliwyd hanner cyntaf y mis mêl yn Mousehole, a ddisgrifiwyd gan Dylan fel ‘y pentref harddaf yn Lloegr’, yn cerdded y clogwyni a’r lonydd gwledig ac yn galw heibio tafarndai, y Ship Inn fel arfer, lle mae Jack yn cofio Dylan yn cymysgu gyda’r bobl leol a’r ‘bobl artistig’ fel ei ffrindiau, y beirdd Oswell Blakeston, Rayner Heppenstall a’r cerflunydd Denis Mitchell, yn ogystal â’r newyddiadurwr Trevor Waters, a oedd yn gweithio i ‘The Cornishman’.
Ar 15 Gorffennaf, ysgrifennodd Dylan at ei ffrind agos yn Abertawe, y bardd Vernon Watkins, gan ddweud wrtho ‘mae fy newyddion yn fawr ond yn syml’; roedd e’ wedi priodi Caitlin Macnamara yng Nghernyw, ‘heb ddim arian, dim gobaith o arian, dim ffrindiau na pherthnasau’n bresennol, ac mewn hapusrwydd llwyr…..a nawr rydym yn rhydd ac yn falch’.
Yr wythnos ganlynol, symudodd y cwpl ychydig filltiroedd ar hyd yr arfordir i bentref pysgota hardd Newlyn, gan aros yn Fradgan Studios gyda’i ‘olygfa odidog o’r Sianel’, ‘tas wair enfawr uchel o stiwdio’, ‘uwchben marchnad bysgota a lle mae gwylanod yn hedfan i mewn am frecwast’. Roedd yn eiddo i Max Chapman, un o ffrindiau Wyn a wnaeth ei roi ar fenthyg i’r pâr ifanc.
Ysgrifennodd cariad go iawn cyntaf Dylan, Pamela Hansford Johnson (a oedd yn briod ei hun bellach) atynt yn y pentref bywiog i ‘artistiaid’ a oedd yn llawn pysgotwyr, gyda’i ‘aer bywiocaol’ i’w llongyfarch, ac addawodd Dylan ei chyflwyno i Caitlin y tro nesaf y bydden nhw yn Llundain ‘a gallwn ni i gyd feddwi’n gaib’. Roedd hyd yn oed un o gyn-gariadon cystadleuol Dylan, yr artist Augustus John, wedi ymweld â nhw, ac aeth â’r pâr ifanc mas yn ei gar, gyda Dylan yn gwasgu ei hun drws nesaf i Caitlin ar y sedd flaen.
Ond yn y pen draw, diflannodd newydd-deb yr encilfan Cernyweg; roedd ysbryd yn eu stiwdio, crogodd yr artist drws nesaf ei hun, ac roedd Caitlin yn casáu paentiadau Max, y ‘pethau lliwiau tywyll ‘ofnadwy’ a oedd yn ychwanegu at y tywyllwch. Tua diwedd mis Awst, ysgrifennodd Dylan at Edith Sitwell (un a gefnogai ei waith yn frwd), i ddiolch iddi am ei rhodd briodas hael, a chan gwyno bod yr ardal yn ddrewllyd, yn llychlyd ac yn llawn clêr: ‘man a man i ni fyw yn y stryd’. Roedd bywyd yno wedi mynd ‘yn ormod, hyd yn oed i ni, nad ydym yn mynnu cysur crand’.
Yn ystod eu mis mêl estynedig, roedd Dylan wedi ysgrifennu ambell gerdd serch ac wedi gorffen dwy stori a ddisgrifiwyd ganddo fel rhai sy’n ‘annhebyg i unrhyw beth dwi wedi’u gweld erioed’. Ond yn awr roedd galwad ei fagwraeth gonfensiynol a pharchus yng Nghymru yn dechrau mynd yn anochel; roedd hi’n amser rhoi pen ar dreulio diwrnodau’n segura yn hytrach nag ysgrifennu, dychwelyd i Abertawe a chyflwyno’i wraig newydd i’w rhieni yng nghyfraith.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English