Deall Barddoniaeth i Ddechreuwyr
I unrhyw un sy’n cael anhawster deall barddoniaeth, mae’r Open Guide to Literature on Dylan Thomas gan Walford Davies yn lle da i ddechrau. Rwyf wedi dwlu ar waith Dylan Thomas gydol fy oes, gan fwynhau ei straeon a’i ddarllediadau, ond rwyf wedi cael trafferth deall ei gerddi. Nid yw fy nghefndir gwyddonol wedi fy hyfforddi i ddehongli trosiadau cywrain neu werthfawrogi cyflythreniad celfyddydol. Serch hynny, pan ddechreuais weithio yng Nghanolfan Dylan Thomas, des ar draws y llyfr hwn, ac mae wedi trawsnewid fy ngallu i ddeall cerddi campus Dylan.
Mae Davies yn cynnig trafodaeth hawdd ei darllen ar lawer o gerddi Dylan Thomas. Mae’n esbonio ystyr ysgrifennu cymhleth a lliwgar Dylan, yn ogystal â rhoi dehongliadau diddorol o’r ystyron cuddiedig yng ngeiriau Dylan, gan alluogi’r darllenydd i ddeall barddoniaeth ar lefel newydd.
I’r rhai sy’n newydd i ddehongli barddoniaeth fel yr oeddwn i, efallai ymddengys y gerdd gyntaf a drafodir yn y llyfr hwn, ‘Once it was the colour of saying’, fel ei bod yn syml yn adrodd stori am ieuenctid y bardd. Mae Davies yn cyflwyno’r syniad bod y gerdd hon yn trafod myfyrdod Dylan ar ei weithiau cynharach a datblygiad ei farddoniaeth dros amser, gan ddatgelu sut mae gwaith Dylan yn llawn ystyron dyfnach wedi’u cuddio ymysg y dechneg berffaith. Nid yw cerddi Dylan yn eiriau hardd ar hap, maent yn destunau dwfn, cryptig.
Mae esboniad Davies o ‘The spire cranes’ yn symleiddio’r brawddegau cymhleth a dryslyd, gan fy ngalluogi i ddarllen y gerdd yn hwylus. Cefais drafferth, fel y darllenydd barddoniaeth newydd, pan ddes ar draws ymadroddion dieithr megis “split sky”, ond mae esboniad Davies sef efallai mai cyfeiriad syml at ddŵr yw hwn wedi gwneud y gerdd yn llawer cliriach i’w darllen. Unwaith yr esboniwyd yr anawsterau arwynebol o ddarllen y gerdd, wrth archwilio ymhellach, gellid darllen y gerdd gyfan yn drosiadol, gan roi ystyr newydd i’r geiriau hyn.
Mae gweddill y llyfr yn llawn dehongliadau diddorol, ond ni wnaf ei sbwylio i chi. Darllenwch drosoch chi’ch hunan a byddwch yn canfod pam yr ystyrir Dylan Thomas yn un o’r beirdd gorau erioed. Byddwch yn gallu deall a gwerthfawrogi cerddi Dylan Thomas mewn ffyrdd nad ydych wedi meddwl amdanynt o’r blaen.
Mae llyfr Walford Davies ‘Open Guide to Literature on Dylan Thomas’ ar gael yn siop roddion Canolfan Dylan Thomas neu ar-lein yma.
Caitlin Lewis
Cynorthwy-ydd Blaen Tŷ
This post is also available in: English