Cyfle i Hwylusydd Ysgrifennu Creadigol
Naw gweithdy misol a chydlynu prosiect grŵp.
Mae Cyngor Abertawe’n gwahodd ceisiadau gan ysgrifenwyr/hwyluswyr profiadol i gyflwyno naw gweithdy ysgrifennu creadigol misol a chefnogi oedolion lleol i archwilio amrywiaeth o genres ac arddulliau. Mae’r prosiect yn ceisio hwyluso creadigrwydd, cyflwyno sgiliau newydd a hyrwyddo lles. Bydd yr hwylusydd yn cefnogi cyfranogwyr i gydweithio i greu gwaith terfynol ar y cyd, a all fod yn antholeg/yn recordiad/yn ffilm/yn ddarn wedi’i sgriptio.
Bydd y prosiect hwn yn dechrau ym mis Mai 2021 a bydd yn gorffen ym mis Chwefror 2022.
Cynhelir y gweithdai ar-lein bob mis nes ei fod yn addas ac yn ddiogel i gwrdd yn uniongyrchol a/neu wneud cyfuniad o’r ddau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r grŵp drwy rannu enghreifftiau, cynllunio ymarferion, hwyluso trafodaethau a gosod tasgau er mwyn helpu i rannu dulliau a sgiliau amrywiol. Bydd y gweithdai’n arddangos nifer o genres er mwyn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i gyfranogwyr archwilio ffurfiau gwahanol. Defnyddir y gwaith a gaiff ei wneud i greu darn a arweinir gan y grŵp i’w arddangos/rannu/berfformio (bydd y grŵp yn penderfynu ar y fformat). Caiff y darn terfynol ei gwblhau’n llawn erbyn diwedd mis Chwefror 2022.
Rhaid i’r gweithdai gyflawni’r amcanion canlynol:
- Cefnogi oedolion ag amrywiaeth o alluoedd a phrofiadau i gymryd rhan mewn prosesau a dulliau ysgrifennu creadigol
- Cefnogi pobl i wella’u lles trwy arferion creadigol a gweithgarwch cymdeithasol
- Cefnogi cyfranogwyr i gydweithio ar brosiect grŵp
Disgwylir y bydd y gweithdai’n para 2 awr, gan gynnwys egwyl, a disgwylir iddynt ddigwydd yn gynnar y nos yn ystod yr wythnos, unwaith y mis.
Bydd yr hwylusydd a ddewisir yn cynnal y sesiynau hyn ar-lein ac yn cynnal amgylchedd diogel a chyfrinachol i bawb. Efallai y gellir cynnal y sesiynau mewn lleoliad pan fydd y cyfyngiadau’n llacio, a fydd yn golygu y bydd angen i ymgeiswyr allu teithio i Abertawe
Bydd y gweithdai ar gael am ddim i oedolion yn Abertawe a chânt eu hysbysu drwy Raglen CYFUNO a Chanolfan Dylan Thomas. Ni fydd disgwyl i chi recriwtio cyfranogwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfathrebu’n uniongyrchol â Chydlynydd y Gymuned Ddiwylliannol (rhaglen CYFUNO) a’r Swyddog Llenyddiaeth (Canolfan Dylan Thomas) i drefnu amserlen, rhannu syniadau, derbyn cefnogaeth a chreu a rhannu’r darn terfynol.
Sylwer; dylai fod gan ymgeiswyr wiriadau GDG priodol ar waith. Gofynnir am dystiolaeth o hyn cyn dyfarnu’r comisiwn.
Telir £1,500 i hwylusydd y prosiect hwn, a bydd angen anfonebu hyn yn fisol.
Os bydd angen, gall fod cyllideb ar gael i gefnogi costau recordio/ffilmio/argraffu.
Profiad angenrheidiol:
- Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir ysgrifennu a diddordeb mawr mewn ysgrifennu creadigol fel cyfrwng
- Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o gynllunio a chyflwyno gweithdai/cyrsiau
- Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio mewn lleoliad cymunedol a chefnogi grŵp i greu gwaith ar y cyd
Mae sgiliau dymunol yn cynnwys:
- Profiad o gyflwyno sesiynau ar-lein
- Hyder wrth ddefnyddio meddalwedd a llwyfannau digidol
I gyflwyno cais am y prosiect hwn, anfonwch gopi o’ch CV gyda llythyr eglurhaol byr sy’n nodi’ch diddordeb yn y rôl ac unrhyw brofiad perthnasol o addysgu/gweithio yn y gymuned. Darparwch ddolenni neu wybodaeth am unrhyw brosiectau eraill o’r fath rydych chi wedi ymwneud â hwy.
Nodwch hefyd nifer y cyfranogwyr byddech yn hapus i’w cefnogi yn y gweithdai.
Rhannwch hefyd unrhyw sgiliau digidol perthnasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i gyflwyno cais, e-bostiwch
amina.abu-shahba@abertawe.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 07/05/21
Cysylltir ag ymgeiswyr erbyn 14/05/21 ac efallai cânt eu gwahodd i gael trafodaeth ar-lein.
This post is also available in: English