Crëwch eich Cwch Dyfyniadau eich hun

Rydym yn mwynhau dychmygu Dylan pan roedd yn ifanc yn chwarae gyda chychod bach yn y nant ym Mharc Cwmdoncyn, fel y cymeriad yn ei gerdd ‘The Hunchback in the Park’, sy’n ysgrifennu am ‘the fountain basin where I sailed my ship’. Neu efallai iddo hwylio’i gwch yn y daith i lan y môr y soniodd amdano yn ei ddarllediad radio, ‘Holiday Memory’.
Os byddwch yn dilyn ein taflen gyfarwyddiadau, gallwch greu eich cwch papur eich hun a chwarae rasio cychod ble bynnag yr hoffech – hyd yn oed yn sinc yr ystafell ymolchi! Rydym hefyd wedi creu taflen y gellir ei hargraffu o’r llinellau mwyaf trawiadol o ‘Holiday Memory’ fel y gallwch greu eich cwch dyfyniadau eich hun. Beth am ychwanegu mast a hwyliau ac anfon llun atom o’ch ymdrechion? Mwynhewch!
Taflen Gyfarwyddiadau

Lawrlwythwch y Daflen Gyfarwyddiadau
Llinellau o ‘Holiday Memory’

Lawrlwythwch Linellau o ‘Holiday Memory’
This post is also available in: English