Creu eich Llareggub eich hun
I anrhydeddu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, rydym wedi cynllunio gweithgaredd creadigol difyr wedi’i ysbrydoli gan Under Milk Wood, wrth i ni ddathlu 68 mlynedd ers ei berfformiad yn Efrog Newydd ym 1953.
Pan oedd Dylan yn ysgrifennu Under Milk Wood, tynnodd lun map o Llareggub i’w helpu i gynllunio a phlotio diwrnod ym mywyd preswylwyr tref lan môr fach Gymreig. Er mwyn eich helpu chi i greu eich stori, drama neu gerdd eich hun, rydym am i chi ddychmygu a chreu map o’ch tref neu le arbennig eich hun. Efallai y bydd yn fap stryd, map trysor, neu fap o bethau rhyfeddol! Edrychwch ar ein hysgogiadau am ysbrydoliaeth – mae pob un ohonynt yn dod o Under Milk Wood – neu argraffwch gopi o’n map dychmygol y gellir ei liwio er mwyn eich sbarduno.
Os hoffech chi greu rhai cymeriadau ar gyfer eich drama eich hun, mae gennym ysgogiadau ar gyfer hynny hefyd. Mae Under Milk Wood yn llawn pobl ryfeddol, a gallant ein hysbrydoli i ddatblygu preswylwyr ein bydoedd dychmygol ein hunain.
Cofiwch rannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni! Rydym yn @CDTAbertawe ar Twitter, ac yn www.facebook.com/CanolfanDylanThomas. Fel arall, e-bostiwch ni yn dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Tirwedd
Yn gyntaf, meddyliwch am ba fath o dirwedd ydy hi.Dyma rai o’r lleoedd a’r nodweddion yn Under Milk Wood – a fydd unrhyw un ohonynt yn ymddangos ar eich map?
- fishingboat-bobbing sea
- Up in the quarry
- at the top of the town
- Salt Lake Farm
- in a cave in a waterfall in a wood
- you can see all the town below you
- Less than five hundred souls inhabit the three quaint streets
- few narrow bylanes and scattered farmsteads
- its cobbled streets and its little fishing harbour
- neglected graveyard
- Over the hills and far away
- to the field with the nannygoats
- The sea lolls, laps and idles in
- musical wind in Coronation Street and Cockle Row
- winding through the Coronation cherry trees
- the sun springs down on the rough and tumbling town
- the hedges of Goosegog Lane
- the streets, fields, sands and waters
- Donkeys angelically drowse on Donkey Down
- Too rough for fishing today
Adeiladau
Mae’n rhaid i’ch preswylwyr fyw yn rhywle! Pa adeiladau a siopau sydd yno?
- chill, squat chapel
- in the pink-eyed cottage next to the undertaker’s
- Bay View, a house for paying guests
- humble, two-storied houses
- run to the Cockle Street sweet-shop
- window thrown wide to the sun
- The windy town is a hill of windows
Preswylwyr
Pwy sy’n byw yno? Gallwch ddefnyddio ein teclyn creu cymeriad i’ch helpu!
- the farmers, the fishers, the tradesmen and pensioners
- cobbler, schoolteacher, postman and publican
- drunkard, dressmaker, preacher, policeman
- Oh, what’ll the neighbours say
- He hasn’t got a leg
- Talking to the lamp-post
- People are moving, now, up and down the cobbled street
- waltzing up the street like a jelly
- There’s a nasty lot live here when you come to think.
- The town’s as full as a lovebird’s egg
Beth gallwch chi ei weld a’i glywed?
- The town smells of seaweed and breakfast
- the voices of children and the noises of children’s feet on the cobbles
- The quick footsteps hurry on along the cobbles
- the clip clop of horses
- herring gulls heckling down to the harbour
- The afternoon buzzes like lazy bees round the flowers
- the larrupped waves
- A breeze from the creased water sighs the streets
- wind-shaken wood
Rydym wedi rhoi cynnig ar greu enwau lleoedd ar gyfer ein map; rydym wedi ceisio defnyddio synau a lluniau fel mae Dylan yn ei wneud yn Dan y Wenallt. Gallwch chi ddefnyddio’r rhain, neu greu eich rhai eich hun!
- Pont Bili Broga
- Siglen Awyr Heulog
- Pwll Drewllyd
- Afon yr Enfys
- Cors-Sgidiau-Glaw
- Storfa Bren Jac-Y-Do
- Bryn Bwni
- Uwchben Blodau’r Bardd
- Gelli’r Trysor Cudd
This post is also available in: English