Coronafeirws – Sut byddai Dylan wedi ymdopi â’r cyfyngiadau symud?
Mae’r cyfyngiadau symud yn her i ni i gyd – ond dychmygwch sut byddai un o feibion enwocaf Abertawe wedi teimlo!
Ysbrydolwyd Dylan gan y byd a’r pobl o’i gwmpas, ac roedd digwyddiadau rhyngwladol yn effeithio arno hefyd. Treuliodd y rhan fwyaf o’r Ail Ryfel Byd yn Llundain, ac ysgrifennodd am y Blitz Tair Noson yn Abertawe yn ei ddarllediad, Return Journey.
Roedd ei brofiad o amgylchedd naturiol Cymru, pobl a theithio wedi arwain at farddoniaeth o safon fyd-eang megis Fern Hill a straeon megis Nadolig Plentyn yng Nghymru.
Mae Arddangosfa Dylan Thomas Cyngor Abertawe – a gynhelir gan dîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor ac sydd ar gau i’r cyhoedd dros dro o ganlyniad i Coronafeirws – yn brysur yn ein hatgoffa ni o gariad y bardd at fywyd trwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n dal yma i Abertawe.
Mae’r negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn llawn profiadau y byddai Dylan wedi eu colli pe byddai wedi gorfod aros gartref yn Abertawe neu Dalacharn.
Mae nodwedd #AryDiwrnodHwn ar gyfryngau cymdeithasol yr arddangosfa yn edrych yn ôl yn ddyddiol ar gyfnod ym mywyd y bardd.
Ar 17 Ebrill, bydd y nodwedd yn cofio diwrnod ym 1934 pan ysgrifennodd Dylan y canlynol yn ei ddyddiadur, ac yntau’n ddyn ifanc 19 oed, “[it’s so] warm & bright that I shall have to satisfy my conscience…by taking a bus to Gower and walking over the cliffs.”
Ar 20 Ebrill, bydd #AryDiwrnodHwn yn edrych yn ôl ar 1936 pan ysgrifennodd Dylan am gyfarfod â TS Eliot. Mae’r bardd a’r dramodydd sydd wedi ennill Gwobr Nobel bellach yn adnabyddus am gerddi megis The Waste Land, Ash Wednesday a Four Quartets ac am ddramâu megis The Cocktail Party a Murder in the Cathedral. Ysgrifennodd Dylan, “He was charming, a great man, I think, utterly unaffected.” Fodd bynnag, mewn man arall nododd fod TS Eliot yn anagram o “toilets“.
Ar 5 Ebrill, roedd #AryDiwrnodHwn yr arddangosfa wedi cofio darlith gyntaf Dylan ar ei daith o’r UD. Ysgrifennodd y canlynol am San Francisco, “Incredibly beautiful, all hills and bridges and blinding blue sky and boats and the Pacific ocean.”
Gallwch ddilyn nodwedd #AryDiwrnodHwn Arddangosfa Dylan Thomas ar Facebook @CanolfanDylanThomas ac ar Twitter @CDTAbertawe.
This post is also available in: English