Cerdd yn y Pot dan y Gwely (Pot Piso) | Rhan 2
Yn ail ran a rhan olaf ei blogiau sy’n archwilio bywyd a gwaith Tambimuttu, mae Charlotte yn datgelu system ffeilio unigryw Tambi.
Os ydym am gytuno â chrynodeb yr hanesydd diwylliannol Barry Miles fod Meary James Tambimuttu yn ‘wthiwr llenyddol o allu eithriadol’ [1] yna efallai y byddem yn meddwl tybed sut helynt a fu pan gyfarfu â rhywun tebyg iawn iddo yng Nghymru sef Dylan – cyd-wthiwr os bu un erioed. Pan nad oeddent yn y tafarndai, roedd y pâr creadigol hwn yn sicr yn adnabod ei gilydd yn ddigon da i fod wedi ysgrifennu at ei gilydd, ac mae nifer o lythyrau Dylan at Tambimuttu i’w gweld yn The Collected Letters[2]. Mae’r llythyrau hyn yn bradychu ‘proffesiynoldeb’ anhrefnus y ddau ohonynt: Anaml y byddai Dylan yn darparu’r gwaith a addawyd ac anaml y byddai Tambimuttu yn darparu’r taliad a addawyd. Mae llythyrau eraill a ysgrifennodd Dylan am Tambimuttu, yn aml yn ddeifiol o’r dyn a oedd mor ddylanwadol ymhlith gwŷr llên Llundain[3].
Cafwyd digwyddiad arbennig o anffodus yn ymwneud â system ffeilio anghywir Tambimuttu. Pe bai golygydd Poetry London yn darllen cerdd neu lawysgrif yn y gwely (man darllen a ffafriwyd) nad oedd yn diwallu ei anghenion, byddai’n estyn o dan y gwely a’i wthio i’w bot dan y gwely.Byddai’r cynhwysydd hwn yn llawn i’r ymylon o ddarlleniadau gwrthodedig hwyr y nos. Ar un achlysur, yn amlwg nid oedd gwaith Dylan at y safon, ac fe laniodd yn y domen sbwriel ceramig hon. Pan ofynnodd Dylan dro ar ôl tro am gael ei gerdd yn ôl – yr oedd gan Tambimuttu yr unig gopi ohoni – dywedwyd ei fod yn wyllt gacwn i ddarganfod lle’r oedd hi.[4]
Fe wnaeth yr ymagwedd anghonfensiynol hon ychwanegu at sïon parhaus a oedd yn bychanu ymrwymiad llenyddol Tambimuttu. Honnwyd na ddarllenodd y gwaith a anfonwyd ato hyd yn oed – gan osod ei gyhoeddiad o waith rhai o bobl fwyaf creadigol gorau ei oes mewn golau rhagluniaethol bron. Yn wir, roedd llawer o ffrindiau a chydweithwyr Tambimuttu yn rhyfeddu at y ffyrdd y dewisodd y farddoniaeth a’r gwaith celf ar gyfer ei brosiectau.[5] Fodd bynnag, mae Barry Miles yn dyfalu mai Tambimuttu ei hun oedd yn debygol o fod wedi ychwanegu at y sïon am ei anghonfensiynoldeb, mewn chwarëusrwydd a nodwyd hefyd gan ei gyfoedion.
Roedd Tambi’n bwyta ychydig ac yn yfed llawer, ond roedd ei gyfraniad i lenyddiaeth Saesneg yn enfawr: golygodd bedwar rhifyn ar ddeg o Poetry London, a thros chwe deg o lyfrau barddoniaeth a rhyddiaith… yn cynnwys Dylan Thomas, Louis MacNeice, Stephen Spender, Lawrence Durrell, W.S. Graham a Katherine Raine.[6]
Ni ellir priodoli’r lefel hon o lwyddiant ac ymrwymiad i hap a dylid ystyried Tambimuttu heddiw yn ganolog i’r byd llenyddol. Mae’n ymddangos yn briodol i ddod â’r archwiliad byr hwn o’i fywyd i ben gyda dyfyniad o’i eiriau ef ei hun. Wrth gofio rhaglen ddogfen a gynhyrchwyd yn fuan ar ôl y rhyfel, mae’n nodi ei fod yn falch o weld bod rhai o’r sgriptiau wedi’u comisiynu gan y Dylan Thomas ‘tlawd’. A ymlaen i nodi’r ffyrdd y byddai’r sefyllfa’n gwrthdroi ei hun yn ddiweddarach:
Pan oeddwn yn dlawd fy hun, yn Efrog Newydd, gwerthais lythyr oddi wrth Dylan i’r House of Books, Efrog Newydd, a oedd yn dweud: “Annwyl Tambi, Gad i mi gael y gini sy’ arnat ti i mi ar gyfer fy ngherdd olaf os gweli di’n dda. Yn gywir, Dylan.”[7]
Gallwn ond obeithio bod y gerdd dan sylw wedi ennill ei lle y tu fas i’r pot.
Charlotte Rogers, Canolfan Dylan Thomas
[1] Miles, Barry, London Calling, Atlantic Books: Llundain, 2010, p. 11
[2] Ferris, Paul, Dylan Thomas: The Collected Letters, J M. Dent: Llundain, 2000
[3]Gellir gweld sawl enghraifft o feddyliau Dylan ar Tambimuttu yn y Collected Letters ond mae’n werth nodi mai anaml y mae Dylan yn arbed unrhyw un rhag beirniadaeth, yn enwedig y rheini sy’n gyfrifol am gyhoeddi ei waith.
[4] Miles, London Calling, t.12
[5] Williams, Jane, Ed., Tambimuttu: Between Two Worlds, Peter Owen: Llundain, 1989
[6] Miles, London Calling, t. 13
[7]Williams, Tambimuttu, t.228
This post is also available in: English